Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw'r gwasanaeth Corneli Clip ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio i ddatrys y rhain mor fuan â phosib. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Roedd Ellis Wynne yn awdur crefyddol, yn glerigwr ac yn dirfeddiannwr. Ystyrir ei gyfrol ‘Gweledigaetheu y Bardd Cwsg’ yn gampwaith llenyddol ac yn glasur Cymraeg. Mae’r cyhoeddiad yn cyflwyno cyfres o weledigaethau dychanol sy’n dwyn sylw at bechodau ac anfoesoldeb cymdeithas, a chredai Wynne mai’r Eglwys Wladol oedd unig ffynhonnell iachawdwriaeth. Canmolwyd y gyfrol am ei Chymraeg cadarn a gwefreiddiol. Profodd ‘Gweledigaetheu y Bardd Cwsg’ hefyd fod yr iaith Gymraeg yn parhau i fod yn gyfrwng cyfathrebu pwysig i rai o uchelwyr Cymru yn y 18fed ganrif.