Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nofelydd rhamantaidd o Gastell Newydd Emlyn, Ceredigion oedd Anne Adalisa Puddicombe neu Allen Raine. Pan oedd yn dair ar ddeg mlwydd oed fe ddanfonwyd hi a’i chwaer i Cheltenham a Wandsworth, lle’u haddysgwyd gan deulu Henry Solly, gweinidog Undodaidd. Mudodd i Lundain am gyfnod gyda’i gwr, cyn dychwelyd yn ôl i’w hardal enedigol. Yn Eisteddfod Genedlaethol 1894 enillodd y wobr gyntaf am ysgrifennu stori a oedd yn darlunio cymuned wledig Gymreig. Gan ennill hyder, parhaodd i ysgrifennu a gorffennodd ei nofel ‘Mifanwy’ ym Mehefin 1896. Gwrthodwyd y gwaith gan chwe chyhoeddwr ac o ganlyniad newidiodd teitl y gyfrol i 'Singer Welsh, gan Allen Raine'; cyhoeddwyd y gwaith a bu’n llwyddiant ysgubol yn nhermau gwerthiant. O dan yr enw Allen Raine, daeth Anne Puddicombe yn un o nofelwyr mwyaf poblogaidd Cymru a chyhoeddodd nifer o gyfrolau’n gyflym. Lleolwyd ei storïau, yn gyfan neu’n rhannol, mewn pentrefi gwledig ar arfordir gorllewinol Cymru a gwerin bobl yr ardaloedd hynny oedd canolbwynt ei nofelau.