Symud i'r prif gynnwys

Actor teithiol ac awdur oedd Thomas Jeffery Llewelyn Prichard. Cofir amdano fel awdur y stori ddifyr ac adnabyddus ‘The adventures and vagaries of Twm Shôn Catti, descriptive of life in Wales: interspersed with poems‘. Yr oedd y gyfrol hon yn llwyddiant yn nhermau ariannol a chafodd ei chydnabod gan rai fel y nofel gyntaf i’w chyhoeddi yng Nghymru; er, sbardunodd y fath ddatganiad dadleuon ac anghytundebau diweddarach. Yr oedd fersiwn gyntaf Prichard, a gyhoeddwyd yn Aberystwyth ym 1828, yn fras ac yn aflednais o ran arddull a chynnwys. Diwygiwyd a datblygwyd y gyfrol ar ffurf argraffiadau diweddarach 1839 a 1873.