Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Awdur straeon byrion oedd W. J. Griffith. Yn 1924, dan ddylanwad E. Morgan Humphreys, dechreuodd Griffith ysgrifennu straeon byrion ar gyfer yr wythnosolyn radical Cymreig ‘Y Genedl Gymreig’. Yn yr un flwyddyn enillodd wobr eisteddfod ‘Y Genedl’ gyda’r gerdd ‘Eos y Pentan’, a sicrhawyd ei enw da yn 1925 pan ymddangosodd ‘Yr Hen Siandri’ yn y papur. Roedd ei straeon, er yn llawn hiwmor, yn fwy na straeon digrif. Roeddent yn llawn disgrifiadau o gefn gwlad ac wedi eu cyflwyno o safbwynt dyn gwledig. Yn 1938, casglodd T. Rowland Hughes ei straeon enwog at ei gilydd a’u cyhoeddi yn y gyfrol ‘Storïau'r Henllys Fawr; mae’r gyfrol hon yn cynnwys rhai o’r straeon mwyaf hwyliog a ysgrifennwyd erioed yn yr iaith Gymraeg.