Symud i'r prif gynnwys


Nofelydd Seisnig oedd Anne Beale. Bu’n byw yn ardal Llandeilo am rai blynyddoedd, ac ystyrir ‘The Vale of the Towey or, sketches in South Wales’ fel ei gwaith pwysicaf a mwyaf dylanwadol. Mae Beale yn adrodd stori Saesnes sy’n ymgartefu yng Nghymru. Mae’r gyfrol yn cynnwys nifer o straeon byrion anaeddfed, ond mae'r cymeriadau, eu cyfnod a’u lleoliad yr un peth. O ystyried hynny, gellid eu hystyried fel cerrig milltir pwysig yn natblygiad y nofel Saesneg yng Nghymru. Ail-argraffwyd y gyfrol yn 1849 yn dwyn y teitl ‘Traits and Stories of the Welsh Peasantry’. Mae nifer o nofelau Beale yn ymdrin ag arferion a moesau’r Cymry, a phrin yw’r awduron Seisnig sydd wedi ymdrin yn fwy o ddifrif â’r traddodiadau hyn.