Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Roedd Elias Owen yn glerigwr ac yn hynafieathydd. Dechreuodd ei yrfa ym myd addysg, a daeth yn brifathro Ysgol Genedlaethol Llanllechid. Roedd gan Owen ddiddordeb mawr mewn materion archaeolegol a cyhoeddwyd nifer o astudiaethau ar hynafiaethau yn ei blwyf yn y ‘North Wales Chronicle’. Er i Owen ddilyn gyrfa ym myd addysg a’r Eglwys, parhaodd i fod yn hynafiaethydd diwyd. Ennillodd ei draethawd ‘Welsh folk-lore’ wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain 1887. Cyhoeddwyd mewn cyfrol unigol yn 1896.