Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Cyfnodolyn Cymraeg, a’r cyntaf o’i fath, oedd ‘Tlysau yr Hen Oesoedd’. Ei fwriad oedd ail-gynhyrchu testunau Cymraeg cynnar ac yn arbennig barddoniaeth Gymraeg clasurol. Sefydlydd a golygydd y cyfnodolyn oedd Lewis Morris, a chyhoeddwyd y rhifyn cyntaf, yn wir yr unig rifyn, yn 1735. Er i’r fenter fethu oherwydd diffyg cefnogaeth, paratowyd y ffordd gan Morris i ysgolheigion eraill, yn enwedig aelodau o Gymdeithas y Gwyneddigion a oeddent yn gasglwyr brwd ac yn gyhoeddwyr testunau Cymraeg ar ddiwedd y 18fed ganrif.