Symud i'r prif gynnwys


Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg cyhoeddwyd amryw o destunau cynhwysfawr ar hanesion lleol a sirol yng Nghymru. Y mae’r gyfrol hon gan Theophilus Jones ymhlith y cofnodion mwyaf cywrain a chaboledig. Ar y cyfan, y mae’r cyfanwaith o safon ysgolheigaidd, er i ragfarnau amlwg dreiddio i’w gynnwys. Roedd Theophilus Jones yn ŵyr i’r hanesydd nodedig Theophilus Evans.