Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Roedd Isaac Foulkes yn newyddiadurwr ac yn awdur. Yn 1862 sefydlodd ei wasg ei hun, ac ar ôl symud o gwmpas Lerpwl nifer o weithiau, ymgartrefodd yn Don Chambers, Paradise Street yn 1896. Ei gyhoeddiad cynnar mwyaf nodedig oedd ‘Cymru Fu’, a werthwyd mewn tair rhan (1862-4) am swllt yr un. Roedd yn gasgliad o chwedlau, rhamantau, llen gwerin a thraddodiadau Cymreig, a ysgrifennwyd yn bennaf gan Foulkes ei hun.