Symud i'r prif gynnwys


Caiff Robert Jones ei adnabod fel cofnodwr y diwygiad Methodistaidd yng Nghymru. Ystyrir 'Drych yr Amseroedd' fel ei gampwaith pennaf. Cyfrif cynhwysfawr ydyw o'r diwygiad, ac fe luniwyd y gyfrol drwy broses o ryngweithio personol; hynny rhwng yr awdur ag arweinwyr pennaf y symudiad. Roedd Robert Jones ei hun yn bregethwr Methodistaidd Calfinaidd, ac o'r oherwydd, yn adnabod ffigyrau allweddol y diwygiad, gan gynnwys Howell Harris.