Symud i'r prif gynnwys


Ganwyd yr awdur a’r hanesydd Jane Williams yn Llundain. Treuliodd cyfnod o’i bywyd yn Aberhonddu, ac o ganlyniad, datblygodd cyfeillgarwch rhyngddi hi a’r noddwr diwylliannol enwog Augusta Hall, neu Arglwyddes Llanofer. Wedi hynny, magodd Jane William ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg a dysgodd yr iaith. Cyhoeddodd lawer o gyfrolau pwysig, gan gynnwys ‘A History of Wales derived from authentic sources’ (1869). Yn y gyfrol honno ceir casgliad o’i gwaith mwyaf uchelgeisiol, ac er gwaethaf ei ddiffygion, ni ddisodlwyd ei gynnwys tan gyhoeddiad holl arwyddocaol Syr John Edward Lloyd ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.