Symud i'r prif gynnwys


Roedd Thomas Stephens yn feirniad llenyddol ac yn hynafiaethydd. Daeth yn adnabyddus fel awdur eisteddfodol llwyddiannus ac yn 1848, yn eisteddfod Y Fenni, enillodd Wobr Tywysog Cymru am ysgrifennu traethawd. Cyflwynodd Stephens draethawd hir ar lenyddiaeth Gymreig yn nyddiau cynnar y beirdd canoloesol, gwaith a gyhoeddwyd yn ddiweddarach yn 1849 gyda’r teitl ‘The Literature of the Kymry’. Hwn oedd ei gyhoeddiad pwysicaf, a’r cyntaf o’i fath i gael ei gydnabod gan ysgolheigion Ewropeaidd ym myd llenyddiaeth.