Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Roedd Robert Williams yn glerigwr, yn ysgolhaig Celtaidd ac yn hynafiaethydd. Yn 1831, cynhaliwyd cystadleuaeth lenyddol gan Gymdeithas y Cymmrodorion lle gofynnwyd i’r cystadleuwyr gasglu cyfres o bortreadau bywgraffiadol o’r Cymry enwocaf ers y Diwygiad Protestannaidd. Yr enillydd oedd Robert Williams. Trefnwyd cyfieithiad Cymraeg o’i waith gan y Cymmrodorion, a gyhoeddwyd gyda’r teitl ‘Enwogion Cymru’. Ychwanegwyd at y Saesneg gwreiddiol, ac fe’i cyhoeddwyd yn Llanymddyfri fel ‘Enwogion Cymru: A Biographical Dictionary of Eminent Welshmen’ (1852).