Symud i'r prif gynnwys


Roedd crefydd yn thema flaenllaw yn rhan fwyaf o weithiau Theophilus Evans, a gwelir elfennau o'r meddylfryd Anglicanaidd yn arbennig o glir yng nghyhoeddiadau’r hanesydd. Gwnaeth Evans ymgais fwriadol i barchu ac asesu traddodiadau Cymreig yn ei weithiau hanesyddol. Yn ddiau, mae ‘Drych y Prif Oesoedd’ yn adroddiad diddorol o hanes cynnar Cymru. Gwelir ymdrechion yr awdur i gyflwyno hanes Cymru mewn cyd-destun gwahanol i hanes Lloegr, gorchwyl na’i chyflawnid ers dwy ganrif. Ystyrir ‘Drych y Prif Oesoedd’ yn glasur llenyddol Cymreig.