Symud i'r prif gynnwys


Casgliad yw ‘A Relation of Apparitions of Spirits in the Principality of Wales’ (1780), gan Edmund Jones, o adroddiadau am ofergoelion ac arferion gwerin Cymreig, ac roedd yr awdur ei hun yn gredwr cryf ynddynt oll. Roedd Jones yn bregethwr ymroddedig, Calfinaidd ac Efengylaidd, ac o ganlyniad i’r cyhoeddiad hwn cyfeiriwyd ato yn rheolaidd fel ‘Yr Hen Broffwyd’.