Symud i'r prif gynnwys


Roedd O. M. Edwards yn olygydd, awdur, hanesydd ac addysgydd enwog. O 1888 ymlaen ymroddodd ei egni i gyhoeddi llyfrau a chyfnodolion poblogaidd, yn enwedig cyfrolau ynglŷn â hanes a diwylliant Cymru. Rhwng 1896 ac 1930 bu’n athro Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth, ond parhaodd i ysgrifennu, golygu a phrawf-ddarllen y tu allan i oriau gwaith ac yn aml i oriau mân y bore. Nid oes modd gor-bwysleisio ei wasanaeth i Gymru, ac yn wir roedd ei ddylanwad yn ymestyn ymhell tu hwnt i furiau’r ddarlithfa. Yn ei gyfrol ‘Cartrefi Cymru’, mae’n disgrifio ei ymweliadau a chartrefi enwogion Cymru. Mae naws rhamntus i ysgrifennu hanesyddol Edwards, ac mae’n cyfeirio’n aml at natur a thirwedd Cymru yn y gyfrol. Fel y rhan fwyaf o’i gyhoeddiadau, mae ‘Cartrefi Cymru’ wedi ei anelu at y darllenwyr cyffredin, a’i fwriad oedd ysgogi eu diddordeb yn hanes a daearyddiaeth Cymru.