Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Roedd Charles Ashton yn lyfryddwr Cymreig ac yn hanesydd llenyddol. Wedi derbyn ond ychydig o addysg, aeth i weithio ym mwynfeydd plwm Dylife. Yn ddiweddarach, ymunodd Ashton â’r heddlu, a bu’n gwasanaethu fel heddwas mewn sawl ardal. Addysgodd ei hun yn bellach drwy fynychu dosbarthiadau nos, ym Machynlleth yn bennaf, a llwyddodd i basio rhai o arholiadau Gwyddoniaeth a Chelf De Kensington. Bu Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, a oedd newydd ei ffurfio, yn fodd i wŷr fel Charles Ashton gael nifer o destunau a chymhellion i wneud ymchwil tua diwedd y 19eg ganrif. Ymhlith ei lwyddiannau roedd ‘Hanes Llenyddiaeth Gymreig 0 1651 O.C. hyd 1850’ a ysgrifennodd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1891. Cyhoeddwyd y gwaith hwn yn ddiweddarach gan Gymdeithas yr Eistaeddfod Genedlaethol yn 1893.