Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'n bosib na fyddwn ni'n gallu cyrchu ein holl ddeunydd archifol rhwng 26 - 29 Mawrth 2025. Os fyddwch chi'n ymweld yn ystod y cyfnod hwn, gofynwn i chi archebu unrhyw ddeunydd archifol cyn 26 Mawrth os gwelwch yn dda. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymroddodd ysgolheigion Ewropeaidd (clerigwyr yn bennaf) eu hamser i gofnodi hanes a diwylliant cenhedloedd bychain a difreintiedig. Yng nghyd-destun Cymru, Carnhuanawc yw'r enghraifft amlycaf. Fe’i hysbrydolwyd yn bennaf gan Herder, athronydd Almaeneg, a fagodd enwogrwydd wrth ddadlau dros werth ac arwyddocâd diwylliannau bychain. Roedd y ddau’n rhannu’r un gred bod diwylliannau o’r fath yn cael eu gwarchod a’u cynnal gan haenau is, niferus, ond materol dlotach y gymdeithas. Ystyrir ‘Hanes Cymru’ fel prif gampwaith Carnhuanawc. Rhannwyd y gwaith yn bedwar cyfrol ar ddeg a chyhoeddwyd hwy rhwng 1836 a 1842. Rhaid nodi nad oedd gan Carnhuanawc afael gadarn ar ddyletswyddau’r hanesydd proffesiynol, serch hynny, ni fyddai gwaith cyfatebol i ‘Hanes Cymru’ yn ymddangos am rai blynyddoedd.