Symud i'r prif gynnwys

Y cylchgronau Cymreig cyntaf

Sylweddolai golygydd Tlysau yr Hen Oesoedd fod y diwylliant Cymraeg yn gwanychu wrth i'r uchelwyr Seisnigo a throi cefn ar y traddodiad barddol. Ymgais oedd y Tlysau felly i ddarparu llenyddiaeth ddifyr ac ennyn diddordeb y Cymry yn eu hiaith a'u llên. Serch hynny, ni bu'r fenter yn llwyddiannus, a hyd y gwyddys un rhifyn yn unig a gyhoeddwyd.

Yn 1770 cafwyd yr ymgais nesaf at sefydlu cylchgrawn Cymraeg pan ymddangosodd Trysorfa Gwybodaeth, neu Eurgrawn Cymraeg. Cyhoeddwyd 15 o rifynnau pythefnosol o'r cylchgrawn dan olygyddiaeth Josiah Rees, gweinidog Undodaidd yng Nghwm Tawe. Mae eu cynnwys yn adlewyrchu diddordebau'r golygydd yn hanes a llên Cymru. Nid yw'n amherthnasol sylwi i un o'i feibion, Owen Rees, ddod yn gyfaill i Walter Scott a Robert Southey, a'i fod yn un o bartneriaid cwmni cyhoeddi Longman.