Symud i'r prif gynnwys

Cylchgronau cyffredinol

Yr oedd nifer o sylwebyddion y cyfnod eisoes wedi mynegi'r farn mai un o brif ddiffygion y wasg gylchgronol yng Nghymru oedd ei natur enwadol, fel y gwnaeth Thomas Stephens, yr ysgolhaig o Ferthyr Tudful, er enghraifft. Medd ef ym 1851:

'Nid yw yn glod mawr i'r genedl, ei bod yn analluog neu yn anewyllysgar i gynnal ei chyhoeddiadau, heb eu bod mewn cysylltiad â'r enwadau crefyddol, ond felly y mae.'

Fodd bynnag rhaid gochel rhag rhoi'r argraff mai'r Eglwys Sefydledig a'r enwadau Ymneilltuol yn unig a fu'n noddi'r wasg gyfnodol yn ystod y cyfnod hwn oblegid cafwyd rhai ymdrechion clodwiw at sefydlu cylchgronau cwbl annibynnol yn ogystal.

Ym 1828 dechreuodd Joseph Davies, cyfreithiwr o Lerpwl, gyhoeddi'r Brud a'r Sylwydd, cylchgrawn dwyieithog nad oedd dim a fynnai ag unrhyw enwad crefyddol. Yr oedd gan y golygydd ddiddordeb mawr mewn gwyddoniaeth a thros ledaenu gwybodaeth ohoni ymhlith ei gyd-Gymry. Credai hefyd mewn llunio geiriau Cymraeg newydd ar gyfer anghenion yr oes, ac ychwanegodd at eirfa'r iaith drwy fathu geiriau i gyfarfod â holl ofynion athroniaeth, gwyddoniaeth ac economeg. Ond byr fu rhawd y Brud a'r Sylwydd a daeth i ben ym mis Awst 1828.

Cylchgrawn tebyg i’r Brud a’r Sylwydd oedd Y Cymmro. Fe’i cyhoeddwyd yn Llundain yn ystod y blynyddoedd 1830-32, ond gorffennodd y cyhoeddiad oherwydd prinder cysodwyr Cymraeg yn y brifddinas. I'r un cyfnod y perthyn cyfnodolion mwy arbenigol fel Y Cynghorydd Meddygol Dwyieithawg (1829) a'r Amaethydd (1845-6).

Cylchgronau llenyddol

Gwelwyd ysgafnhau ychydig ar natur cylchgronau ail hanner y ganrif, a bu cynnydd yn rhif y cyhoeddiadau poblogaidd.

Er mai llenyddol a hynafiaethol yn bennaf oedd osgo'r Brython (1858-1863), cyhoeddwyd ynddo hefyd lawer o lên-gwerin - yr union ddefnyddiau a anwybyddwyd gan y cyfnodolion enwadol. Roedd y rheini bellach, serch hynny yn barotach i gyhoeddi defnyddiau ysgafnach, a daeth nofelau a storïau cyfres yn boblogaidd ar eu tudalennau. Yr oedd amryw o'r rhain yn drosiadau neu'n gyfaddasiadau o weithiau Saesneg ac Americanaidd ac o natur foesol ac adeiladol yn ôl chwaeth y cyfnod. Yn y man daeth y nofel yn barchus fel cyfrwng llenyddol, ac ym 1861 sefydlodd William Aubrey o Lannerch-y-medd ym Môn, Y Nofelydd a Chydymaith y Teulu fel cyhoeddiad misol.

Golud yr Oes

Golud yr Oes

I'r un cyfnod y perthyn Golud yr Oes, cylchgrawn poblogaidd a gyhoeddwyd gan Hugh Humphreys yng Nghaernarfon. Yr oedd Humphreys ymhlith y mwyaf anturus a dyfeisgar o argraffwyr ei gyfnod, a mabwysiadodd dechnegau argraffu newydd megis ysgythru oddi ar blatiau dur a chopr. Adlewyrchir hyn yng nghynnwys Golud yr Oes, un o gyfnodolion Cymraeg mwyaf uchelgeisiol y ganrif.

Y Punch Cymraeg

Y Punch Cymraeg

Yr oedd engrafiadau a chartwnau ymhlith prif nodweddion Y Punch Cymraeg (1858-1864) yn ogystal. Seiliwyd y cyhoeddiad hwn ar y ‘Punch’ Seisnig gyda'r gwahaniaeth nad ar gyfer pendefigion na thirfeddianwyr Lloegr, a fu'n chwerthin ar ben ei gilydd ym myd ffasiwn a gwleidyddiaeth y bwriadwyd ef. Y werin Gymreig yn hytrach oedd cynulleidfa'r Punch Cymraeg, a bu ei olygyddion yn gwneud sbort am ben pawb a phopeth a fu'n galw am feirniadaeth wawdiol a choeglyd yng Nghymru'r cyfnod.

Y Geninen a Cyfaill yr Aelwyd

Y Geninen a Cyfaill yr Aelwyd

Mwy difrifol o ran cynnwys oedd Y Geninen (1883-1928) a roes gyfle i ysgrifenwyr o wahanol safbwyntiau draethu eu barn ar bynciau llenyddol, gwleidyddol a chymdeithasol. Bu John Thomas ('Eifionydd') yn gweithio yn swyddfa argraffu Eyre and Spottiswoode yn Llundain, ac roedd ymhlith y mwyaf profiadol o olygyddion ei gyfnod.

Roedd Beriah Gwynfe Evans hefyd yn olygydd profiadol, ac ef a sefydlodd Cyfaill yr Aelwyd (1881-94) fel misolyn poblogaidd. Cyhoeddwyd ynddo farddoniaeth, llenyddiaeth ac erthyglau ar wyddoniaeth a phynciau'r dydd.

Owen M Edwards

Owen M Edwards

Cyfaill yr Aelwyd fu'n batrwm i Owen M Edwards pan lansiodd Cymru (1891-1927), un o gylchgronau mwyaf llwyddiannus y Gymraeg. Amcan Owen Edwards oedd trwytho'r Cymry yn hanes a diwylliant eu gwlad gan roi pwyslais arbennig ar arwyr a llenorion y genedl. Cyhoeddid ynddo hefyd luniau a ffotograffau, a chafodd gryn ddylanwad ar ieuenctid y cyfnod. Fel cenedlaetholwr diwylliannol gwnaeth Owen Edwards, a oedd yn arolygwr ysgolion, wasanaeth mawr i Gymru ar adeg argyfyngus yn hanes ei llenyddiaeth.

Ymhlith cylchgronau eraill a sefydlwyd ganddo mae:

  • Cymru'r Plant (1892-)
  • Seren y Mynydd (1895)
  • Y Llenor (1895-98)
  • Heddyw (1897)  
  • Wales (1894-97) ar gyfer y Cymry di-Gymraeg