Symud i'r prif gynnwys

Casgliadau llyfrau prin

Casgliadau sylfaen

Dau brif gasgliad sy’n sail i’r llyfrau prin yn y Llyfrgell:  

Casgliad Syr John Williams: Casgliad ardderchog Syr John Williams yw craidd casgliad llyfrau print Llyfrgell Genedlaethol Cymru. .

Casgliad Coleg Prifysgol Cymru:  Trosglwyddwyd y Llyfrgell Gymreig yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth i’r Llyfrgell Genedlaethol yn 1909. Mae’n cynnwys tua 13,400 o gyfrolau, gan gynnwys llyfrgelloedd y casglwyr o’r 19eg ganrif, y Parch. Owen Jones, Llansantffraid a Richard Williams, Celynog, y Drenewydd. Mae’r casgliad yn gryf mewn gweithiau diwinyddol Cymraeg o’r 19eg ganrif, clasuron Cymraeg o’r 18fed ganrif a chasgliadau o emynau.

Llyfrgelloedd dwy o gadeirlannau Cymru

Mae llyfrgelloedd dwy o gadeirlannau Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol:

  • Llyfrgell Cadeirlan Llandaf: adneuwyd llyfrau print mwyaf gwerthfawr a phrin Llyfrgell y Gadeirlan i’r Llyfrgell Genedlaethol yn 1943 ac fe’u prynwyd gan y Llyfrgell yn 1984.  Mae’r casgliad yn cynnwys tuag 800 o eitemau mewn 200 cyfrol; maent yn ddiwinyddol eu cynnwys yn bennaf a nifer dda ohonynt yn gyfrolau o bregethau o’r 17eg a’r 18fed ganrif.
  • Llyfrgell Cadeirlan Llanelwy:  Mae’r llyfrgell hon yn parhau i fod yn eiddo i’r Gadeirlan, ond mae wedi bod ar adnau parhaol i’r Llyfrgell Genedlaethol ers 1970. Mae’n cynnwys tua 2,500 o gyfrolau.

Llyfrgelloedd plastai

Mae llyfrgelloedd nifer o blastai wedi dod i feddiant y Llyfrgell Genedlaethol dros y blynyddoedd. Mewn rhai achosion mae’r rhain yn cynnwys llawysgrifau (gweler erthygl ar wahân) a llyfrau print. Mae’r casgliadau hyn yn cynnwys:

  • Castell Gorfod:  Llyfrgell Capten James Buckley o Gastell Gorfod, San Clêr, Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys y llyfrgell a gasglwyd gan ei dad-cu ar ochr ei fam, sef Joseph Joseph, F.S.A., o Aberhonddu. Mae’n cynnwys 1,500 eitem ar hanes, achyddiaeth a thirwedd, yn enwedig deunydd sy’n ymwneud â siroedd Brycheiniog a Chaerfyrddin, yn y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Castell y Waun:  Casgliad o tua 350 o gyfrolau a thua 500 o bamffledi o lyfrgell teulu’r Myddelton o Gastell y Waun/Chirk ger Wrecsam. Cafodd gweddill y llyfrgell ei phrynu yn ddiweddar gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’i chadw yn y castell.
  • Dolaucothi:  Casgliad o tua 1,400 o gyfrolau o lyfrgell teulu Lloyd-Johnes o Dolaucothi, Sir Gaerfyrddin, yn cynnwys cyhoeddiadau o’r 18fed a’r 19eg ganrif, a nifer helaeth o eitemau ar India a’r trefedigaethau.
  • Plas Power:  Casgliad o tua 220 o gyfrolau o lyfrgell Plas Power ger Wrecsam.

Casgliadau unigolion

Dros y blynyddoedd mae casgliadau nifer o unigolion wedi dod i feddiant y Llyfrgell, yn ogystal â chasgliad craidd Syr John Williams:

  • Anderson: Casgliad o tua 140 o weithiau gan John Donne neu sy’n gysylltiedig ag ef, wedi’u prynu gan ysgutorion R.A. Anderson o Lanilltud Fawr, Morgannwg. 
  • Bourdillon: Casgliad Francis William Bourdillon o Midhurst, Sussex sy’n cynnwys 150 o lawysgrifau a 6,178 o gyfrolau wedi’u hargraffu, gan gynnwys 66 o 250 incwnabwla y Llyfrgell (sef llyfrau wedi’u hargraffu yn y 15fed ganrif). Mae’r casgliad yn gyfoethog mewn testunau ac astudiaethau llenyddol Ffrangeg o’r Oesoedd Canol a llyfrau darluniadol cynnar. Mae’n cynnwys 23 argraffiad o’r Roman de la Rose a argraffwyd cyn 1550.
  • Lewis Weston Dillwyn: casgliad o tua 1,000 o gyfrolau o lyfrgell y botanegwr L.W. Dillwyn, yn arddangos datblygiad botaneg o’r 16eg ganrif hyd at y 19eg.
  • Henry Hey Knight: casgliad o tua 3,000 cyfrol yn ymwneud ag athroniaeth, diwinyddiaeth, hanes, topograffi a llenyddiaeth glasurol a Saesneg, o’r 16eg i’r 18fed ganrif.

Casgliad o argraffiadau Elfennau Euclid

Efallai mai un o’r casgliadau mwyaf annisgwyl a geir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw casgliad o argraffiadau Elfennau Euclid a gwaith arall a briodolir iddo. Sail y casgliad yw 39 o gyfrolau a roddwyd gan Syr Charles Thomas-Stanford, ond mae’r Llyfrgell wedi parhau i ychwanegu at y casgliad, sydd bellach yn cynnwys dros 300 o gyfrolau.

Ychwanegu at y casgliad llyfrau prin

Mae llyfrau prin yn parhau i ddod i feddiant y Llyfrgell trwy eu prynu a’u cael fel rhoddion a chymynroddion. Y nod yw cael gwaith sydd yn yr iaith Gymraeg, wedi’u hysgrifennu gan awduron o Gymru, wedi’u hargraffu yng Nghymru, neu sy’n ymwneud â Chymru a’r Cymry, yn ogystal â chopïau o lyfrau sydd wedi bod yn eiddo i unigolion enwog o Gymru. Gwneir ymdrechion hefyd i ychwanegu at y meysydd pwnc y mae gan y Llyfrgell ddaliadau sylweddol ynddynt eisoes.