Symud i'r prif gynnwys

Hanes byr yr ymfudo

Ym 1865 ymfudodd y fintai gyntaf o Gymry i'r Wladfa, ac ymfudodd mintai arall ym 1876. Erbyn 1888 sefydlwyd gwladychfa arall yng Nghwm Hyfryd wrth droed yr Andes. Wedi dioddef caledi enbyd am rai blynyddoedd yr oedd cryn lewyrch ar y diwylliant Cymraeg yn y Wladfa erbyn diwedd y ganrif, a sefydlwyd 4 newyddiadur i wasanaethu'r gwladfawyr.

Newyddiaduron y Wladfa

Newyddiadur yn cylchredeg mewn llawysgrif oedd Y Brut a ymddangosodd gyntaf ym mis Ionawr 1868, a gwyddys bod tua 6 o rifynnau ohono wedi eu cynhyrchu. Cyhoeddwyd 6 rhifyn o Ein breiniad ym 1878, ond byrhoedlog fu'r newyddiadur hwnnw hefyd. Yna ym 1891 sefydlwyd Y Drafod fel papur newydd gan Lewis Jones, un o arloeswyr y Wladfa, ac fe'i cyhoeddwyd yn wythnosol hyd 1961. Parheir i'w gyhoeddi'n chwarterol heddiw er bod mwy o Sbaeneg na Chymraeg ynddo bellach. Bu Eluned Morgan, un o lenorion Cymraeg amlycaf y Wladfa yn olygydd iddo am gyfnod.