Symud i'r prif gynnwys

Cyhoeddwyd y cylchgrawn Saesneg cyntaf yng Nghymru, sef The Cambrian Magazine yn Llanymddyfri ym 1773, ond ychydig iawn a wyddys am ei gyhoeddwyr a'i olygyddion. Yn wir yn gymharol ddiweddar y daethpwyd o hyd i'r unig gopïau o'r 2 rifyn a gyhoeddwyd, a hynny yn un o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Er bod iddo ogwydd llenyddol, ymddengys bod iddo gylchrediad ymhlith teuluoedd bonedd y gororau gan ei fod yn cynnwys peth newyddion o'r ardaloedd hynny yn ogystal.

Sais o swydd Hampshire a ymgartrefodd yng Nghastell-Nedd ym Morgannwg oedd Elijah Waring, sefydlydd The Cambrian Visitor, (yr ymddangosodd 8  rhifyn ohono yn Abertawe ym 1813). Roedd gan Waring ddiddordeb mewn materion Cymreig ac roedd goleuo'r Saeson am hanes Cymru a'i phobl yn un o'i bolisïau fel golygydd.

Yn Llundain yn hytrach nag yng Nghymru y cyhoeddwyd y mwyafrif o'r cylchgronau Saesneg cynnar a oedd o ddiddordeb Cymreig, ac mae'r ffaith hon ynddi ei hun yn awgrymu nad oedd fawr o farchnad i gylchgronau Saesneg ymhlith y Cymry eu hunain. Dyna The Cambrian Register er enghraifft, yr ymddangosodd 3 cyfrol ohono dan olygyddiaeth William Owen-Pughe rhwng 1795 a 1818. Cylchgrawn tebyg oedd The Cambro-Briton a ymddangosodd yn 3 cyfrol dan olygyddiaeth John Humffreys Parry rhwng 1819 a 1822. Llenyddol a hynafiaethol oedd cynnwys y rhain yn bennaf, ac roedd cyhoeddi cyfieithiadau Saesneg o lenyddiaeth Gymraeg Cynnar a Chymraeg Canol yn ogystal ag erthyglau ar bynciau hanesyddol a daearyddol yn rhan o bolisi'r golygyddion.

Newid yn naws y cylchgronau

At ei gilydd, felly, hynafiaethol a hanesyddol oedd y mwyafrif o'r cyhoeddiadau Saesneg hyn, a bu'n rhaid aros tan chwarter olaf y ganrif cyn gweld cyhoeddi cylchgronau o natur ysgafnach.

Sefydlodd Charles Wilkins The Red Dragon fel misolyn ym 1882 ac fe'i cyhoeddwyd yng Nghaerdydd hyd 1887. Cyhoeddwyd amrywiaeth o ddefnyddiau ynddo, yn farddoniaeth ac adolygiadau, portreadau o Gymry enwog a nofelau cyfres, a rhoddai'r golygydd bwyslais arbennig ar hanes diweddar Cymru. Eithr troi'n gylchgrawn hanesyddol a wnaeth The Red dragon yn ystod 2 flynedd olaf ei oes gydag adran ar nodiadau a chwestiynau yn llenwi'r rhan fwyaf o'i dudalennau. Er hynny dichon mai'r cylchgrawn hwn oedd y cyntaf i geisio creu cynulleidfa ddiwylliedig Gymreig yn Saesneg.

Diwedd y 19eg ganrif

Ym 1886 daeth Cymru Fydd i fodolaeth fel mudiad cenedlaethol grymus a'i bwyslais yn drwm ar hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru, ac fe'i gwasanaethwyd gan 2 gylchgrawn Saesneg, Cymru Fydd (1886-91) a Young Wales (1895-1903).

I'r un cyfnod y perthyn Wales (1894-7) a sefydlwyd gan Owen M Edwards gyda'r amcan o feithrin safon diwylliannol y Cymry di-Gymraeg drwy eu cyflwyno i lenyddiaeth Cymru. Hyd yn hyn fodd bynnag, gyda sefyllfa'r iaith Gymraeg yn gryfach nag y bu erioed, roedd y rhan fwyaf o gynnyrch y wasg gylchgronol yng Nghymru yn Gymraeg ei iaith.