Defnyddio’r casgliad
Mae rhan fwyaf o’r cylchgronau wedi eu catalogio a gellir ei darganfod ar Gatalog y Llyfrgell. Gellir archebu eitemau o’r Gatalog er mwyn eu gweld yn yr Ystafell Ddarllen, tra bod rhai o deitlau sy’n cael ei defnyddio’n aml ar gael ar y silffoedd agored yn yr Ystafell Ddarllen.
Mae’r Llyfrgell hefyd wedi cyhoeddi dau lyfryddiaethau sy’n disgrifio cylchgronau y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cynhyrchwyd hwy gan Dr Huw Walters sef, Llyfryddiaeth cylchgronau Cymreig 1735-1850 = A bibliography of Welsh periodicals 1735-1850 a Llyfryddiaeth cylchgronau Cymreig 1851-1900 = A bibliography of Welsh periodicals 1851-1900. Mae’r ddwy gyfrol yma yn rhoi gwybodaeth gynhwysfawr o gylchgronau Cymreig y cyfnod.