Symud i'r prif gynnwys

Cylchgronau plant

Cafwyd cnwd toreithiog o gylchgronau plant o 1823, pan ymddangosodd yr Addysgydd, tan ddiwedd y ganrif. Byrhoedlog fu'r mwyafrif llethol ohonynt, ond mae'n wir dweud i gryn 6 o deitlau barhau am ganrif neu fwy.

Yr enwadau crefyddol unwaith yn rhagor a fu'n noddi'r teitlau hyn. Roedd ganddynt fanteision masnachol pendant gan eu bod yn gymharol hawdd i'w dosbarthu a'u marchnata yn yr ysgolion Sul. Nid yw'n annisgwyl efallai, o gofio am chwaeth yr oes, nad yw cynnwys cylchgronau plant y ganrif mor wahanol i gynnwys cylchgronau'r oedolion.

Amcan y cyhoeddiadau hyn oedd bod yn llawforwyn i foesoldeb a chrefydd a'r gwerthoedd hynny a fawrygid gymaint yng nghymdeithas oes Victoria. Ystyrid mai'r dull gorau o ddiogelu plant rhag temtasiynau'r byd oedd drwy beri ofn yn eu calonnau a'u cael i roi eu bywyd i wasanaethu Duw. O ganlyniad brithir cyfnodolion fel Yr Athraw i Blentyn (1827-1918), Tywysydd yr Ieuainc (1837-51) a'r Winllan (1848-1965) â straeon crefyddol, a hanesion am farwolaethau plant rhinweddol, a phrin bod gan eu golygyddion y syniad lleiaf ynglŷn â'r hyn a apeliai at ddarllenwyr ifainc.

Cylchgronau merched

Bu'n rhaid aros tan 1850 cyn sefydlu'r cylchgrawn Cymraeg cyntaf ar gyfer merched pan gyhoeddwyd Y Gymraes dan olygyddiaeth Evan Jones ('Ieuan Gwynedd'). Credai ef fod angen addysgu merched i wneud eu cyfraniad cymdeithasol fel mamau a gwragedd, a brithir ei gyhoeddiad â chyfarwyddiadau manwl ar gadw tŷ a choginio. Daeth gyrfa'r misolyn i ben ymhen 2 flynedd oherwydd diffyg cefnogaeth gan na dderbyniai nawdd gan unrhyw enwad na mudiad.

Addysgu a chrefyddi merched oedd amcan Y Frythones (1879-91) hefyd, ac fe'i golygwyd gan Sarah Jane Rees ('Cranogwen'). Fe'i seiliwyd ar The English Women's Domestic Magazine ac roedd merched dyngarol fel Hannah Moore ac Elizabeth Fry ymhlith arwresau'r cyhoeddiad.

I gyfnod ychydig yn ddiweddarach y perthyn yr ail Gymraes (1896-1934) a olygwyd gan Alice Gray Jones ('Ceridwen Peris'). Roedd hi’n llai ceidwadol na'i rhagflaenwyr fel golygydd, gan ddadlau'n gyson o blaid hawliau a statws y ferch.