Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Y casgliad Cymreig yw prif gasgliad y Llyfrgell o lyfrau Cymraeg a Chymreig. A gellir ei ystyried fel casgliad craidd y Llyfrgell.
Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys cyhoeddiadau yn yr ieithoedd Celtaidd eraill. Fe wneir ymdrech arbennig gan y Llyfrgell i gasglu popeth Cymraeg a Chymreig a gyhoeddir drwy’r byd.
Yn ychwanegol at y deunyddiau Prydeinig a ddaw dan y Ddeddf Hawlfraint, mae’r Llyfrgell yn prynu unrhyw weithiau o ddiddordeb Cymreig a gyhoeddir y tu allan i Gymru. Gwneir ymdrech hefyd i gasglu’r manion Cymreig nad ydynt yn rhan o’r llif o’r cyhoeddwyr masnachol. Mae gan y Llyfrgell gyfrifoldeb cadwraethol i ddiogelu’r manion hyn yn ogystal â’r llyfrau mwy sylweddol.