Y Casgliad
Mae statws Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel Llyfrgell Adnau Cyfreithiol yn sicrhau fod gennym gasgliad cynhwysfawr o gyhoeddiadau swyddogol o’r Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon. Mae’r casgliad yn cynnwys cyhoeddiadau print seneddau a llywodraethau'r DU a Gweriniaeth Iwerddon, seneddau, cynulliadau a llywodraethau ac asiantaethau datganoledig.
Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys gwefannau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru ac asiantaethau a byrddau Cymreig. Mae’r Archifdy Gwladol, y Llyfrgell Brydeinig a Llyfrgell Genedlaethol yr Alban yn gyfrifol am gasglu cyhoeddiadau gwe seneddau, cynulliadau a llywodraethau eraill y DU.
Mae’r Llyfrgell yn lyfrgell adnau i nifer o fudiadau tramor gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig, Cymdeithas Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), Cymdeithas Diogelwch a Chydweithredu yn Ewrop (OSCE), Yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol, Y Gronfa Arian Ryngwladol, Y Gymdeithas Forwrol Ryngwladol, Y Sefydliad Llafur Rhyngwladol a’r Cyngor Ewropeaidd.
Catalogau & Chwilio
- Catalogau
- Help i chwilio
- Am ein casgliadau
- Llawysgrifau
- Archifau
- Deunydd printiedig
- Gweld deunydd printiedig
- Y Casgliad Cymreig
- Cyhoeddiadau swyddogol
- Casgliad Syr John Williams
- Llyfrau prin
- Papurau Newydd
- Y Casgliad Celtaidd
- Cylchgronau Cymreig
- Cylchgronau Saesneg
- Y wasg yn Nhaleithiau Unedig America
- Y wasg yn y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia
- Y wasg yn Awstralia
- Papurau bro
- Cylchgronau ysgolion Cymreig
- Dolenni deunydd printiedig allanol
- Darluniau
- Mapiau
- Cerddoriaeth
- Ffotograffau
- Archif Sgrin a Sain
- Archif Ddarlledu Cymru
- Adnau cyfreithiol
- Casgliadau penodol
- Cadwraeth