Chwilio’r casgliad
Mae holl Gyhoeddiadau Swyddogol Gogledd Iwerddon sydd wedi eu cyhoeddi ers 1985 wedi eu rhestru yn yr OPAC. Rhestrir cyhoeddiadau cyn 1985 ar microfiche. Caiff rhai cyhoeddiadau arbennig megis Rheolau Statudol, Deddfau, Mesurau a phapurau NIA (tan 2009) eu trin fel cyfresi ac nid oes modd eu chwilio yn ôl teitl neu ISBN. Gellir defnyddio catalogau blynyddol neu gatalog ar-lein TSO er mwyn dod o hyn i rif y cyhoeddiad. Ers 2009 pan gorffenwyd rhifo papurau NIA, caiff rhain eu trin fel monograffau a'u cofnodi yn unigol yn yr OPAC.
Ers datganoli cyhoeddi swyddogol, mae nifer o adrannau ac asiantaethau yn cyhoeddi heb ddefnyddio TSO, ac nid oes cofnod o’u cyhoeddiadau yng nghatalogau TSO.
Gellir archebu eitemau ymlaen llaw a gellir hefyd eu rhoi ar gadw oni bai bod darllenydd arall yn gwneud cais am yr un eitem.