Symud i'r prif gynnwys

Lle'r oedd y cyhoeddiadau ar gael fel eitemau unigol ac ar ffurf cyfrolau wedi eu rhwymo roedd y Llyfrgell arfer derbyn y ddau fformat, fodd bynnag ers 2010, lle mae fersiynau unigol a chyfrolau rhwymedig ar gael, dim ond y cyfrolau rhwymedig sydd yn cael eu derbyn.

Ceir mynediad hefyd i fersiynau ar-lein trwy Public Information Online.

Caiff cyhoeddiadau swyddogol Llywodraeth Prydain sy’n berthnasol i’r Alban eu trin fel rhan o gasgliad cyhoeddiadau swyddogol Prydeinig. Mae hyn yn cynnwys adroddiadau a chyhoeddiadau Swyddfa’r Alban am bob maes nad ydynt wedi’u datganoli. Mae deddfwriaeth ar gyfer yr Alban gan Senedd Prydain hefyd yn cael ei ystyried fel rhan o gasgliad cyhoeddiadau swyddogol Prydeinig.

Mae dehongliad y Llyfrgell o beth yw papur Anseneddol yn eang ac yn gynhwysol iawn. Yn ychwanegol at adrannau’r Llywodraeth ac asiantaethau gweithredol, mae’n cynnwys Cyrff Cyhoeddus, Cyrff Cyhoeddus Anadrannol, a sefydliadau sy’n cael eu hariannu’n gyhoeddus.

Chwilio’r casgliad

Mae holl Gyhoeddiadau Swyddogol yr Alban sydd wedi eu cyhoeddi ers 1985 wedi eu rhestru yn yr OPAC. Rhestrir cyhoeddiadau cyn 1985 ar microfiche. Caiff rhai cyhoeddiadau arbennig megis Offerynnau Statudol yr Alban, Deddfau, Mesurau a phapurau Senedd yr Alban, Gweithrediaeth yr Alban a Llywodraeth yr Alban eu trin fel cyfresi ac nid oes modd eu chwilio yn ôl teitl neu ISBN. Fodd bynnag, gellir defnyddio OPAC Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, sydd yn cynnwys cofnodion ar gyfer llawer o’r cyhoeddiadau hyn er mwyn dod o hyn i rif y cyhoeddiad.

Nid yw Senedd neu Llywodraeth yr Alban yn cyhoeddi trwy TSO, ond oherwydd cytundeb canolog ar gyfer deddfwriaeth, cyhoeddir Actau Senedd yr Alban ac Offerynnau Statudol Senedd yr Alban gan TSO, ac mae cofnodion ar eu cyfer yn eu catalog. Ers 1999 mae Astron, R. R. Donnelly ac APS wedi cyhoeddi ar ran Llywodraeth (a adnabyddir fel Gweithrediaeth) yr Alban.

Gellir archebu eitemau ymlaen llaw a gellir hefyd eu rhoi ar gadw oni bai bod darllenydd arall yn gwneud cais am yr un eitem.

Senedd Yr Alban

  • Set gyflawn o 1999 o gyhoeddiadau Senedd yr Alban yn cynnwys yr Adroddiad Swyddogol, Bwletin Busnes, Papurau Senedd yr Alban, Mesurau Senedd yr Alban

Llywodraeth Yr Alban (Yn flaenorol Gweithrediaeth Yr Alban)

  • Papurau Gweithrediaeth yr Alban (Papurau SE): Set gyflawn 1999-2007
  • Papurau Llywodraeth yr Alban (Papurau SG): Set gyflawn o 2007

Deddfwriaeth

  • Offerynnau Statudol yr Alban: Set gyflawn o 1999 (wedi eu rhwymo a heb eu rhwymo)
  • Deddfau Senedd yr Alban: Set gyflawn o 1999 (wedi eu rhwymo a heb eu rhwymo)
  • Cyfres Cludiant y Mesur: Set gyflawn o 1999 (wedi eu rhwymo)

Cylchgronau

  • The Edinburgh Gazette: Set gyflawn o 1985

Arlein

  • Public Information Online (amrywiaeth eang o gyhoeddiadau Senedd a Llywodraeth yr Alban o 2006). Ceir mynediad o dudalen adnoddau ar-lein allanol.