Symud i'r prif gynnwys

Prif feysydd y casgliad

Yr ieithoedd Celtaidd modern a’u llenyddiaeth a gweithiau mewn ieithoedd eraill sydd yn eu trafod

Yn ogystal â’r Gymraeg mae 5 iaith Geltaidd fodern arall: yr Wyddeleg, yr Aeleg, y Fanaweg, y Gernyweg a’r Llydaweg. Ein nod yw i sicrhau bod copi o bob cyhoeddiad yn yr ieithoedd hyn, yn llyfrau ac yn gylchgronau, yn ein casgliad. Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys unrhyw weithiau sydd yn trafod yr ieithoedd neu destunau yn yr ieithoedd hyn, ym mha bynnag iaith y’u cyhoeddir.

Ieithoedd, hanes, diwylliant, archeoleg a chrefydd yr Hen Geltiaid ar draws Ewrop

Mae nifer o safbwyntiau gwahanol ynglŷn â phwy yn union oedd y Celtiaid a beth y gellir ei ddweud gydag unrhyw sicrwydd amdanynt. Yn gyffredinol credir iddynt ddod i’r amlwg tua 800 C.C. yng Nganolbarth Gorllewin Ewrop a bod olion archeolegol Oes yr Haearn Hallstatt ac yn ddiweddarach La Tène yn gysylltiedig â nhw.

Erbyn cyfnod y Rhufeiniaid roedd y Celtiaid wedi ymledu i nifer o ardaloedd yn y dwyrain a’r gorllewin, gan gynnwys Ynysoedd Prydain wrth gwrs. Er nad yw’r berthynas rhwng yr olion ieithyddol sydd i’w cael mewn arysgrifau, enwau lleodd ac enwau personol, tystiolaeth ysgrifenedig awduron Clasurol, a’r olion archeolegol, bob amser yn eglur, nod rhan hon y casgliad yw tynnu ynghyd unrhyw gyhoeddiadau ar yr union bynciau hyn. Rydym wrth gwrs yr un mor awyddus i gynnwys yn y casgliad gyhoeddiadau sydd yn bwrw amheuaeth ar rai o’r syniadau uchod. Golyga ardal ddaearyddol eang y maes hwn fod llawer iawn o’r cyhoeddiadau yn Almaeneg, Ffrangeg, Sbaeneg ac Eidaleg – ac amryw ieithoedd eraill Ewrop hefyd.

Llydaw a Chernyw

Ers y cychwyn mae’r Llyfrgell wedi ceisio sicrhau casgliad cynhwysfawr o gyhoeddiadau ar Lydaw a’i phobl. Soniwyd uchod am bwysigrwydd y Llydaweg a’i llenyddiaeth i’r casgliad ond mae hefyd yn cynnwys llenyddiaeth Ffrangeg o Lydaw yn ogystal â gweithiau yn Ffrangeg ac ieithoedd eraill, yn trafod unrhyw agwedd ar Lydaw a’r Llydawiaid. Gadawodd rhai o lenorion Llydaw eu papurau personol i’r Llyfrgell ofalu amdanynt. Un o’r prif archifau hyn yw papurau’r llenor Roparz Hemon.

Mae ein statws fel Llyfrgell Adnau Cyfreithiol yn sicrhau fod gennym gasgliad cynhwysfawr o gyhoeddiadau ar Gernyw a’i phobl. Lle bydd angen, ychwanegwn at y casgliad hwn trwy ddulliau derbyn eraill.

Llên Arthuraidd ac unrhyw weithiau sydd yn ymdrin â’r llên hon

Er bod yr hanesion gwreddiol am y Brenin Arthur wedi tarddu yn ‘Ynys Prydain’, ymledodd a datblygodd y straeon hyn yn gorff o lenyddiaeth amlweddog ac amlieithog ar draws Ewrop. Anelir at gasgliad cynhwysfawr sydd yn cynnwys testunau gwreiddiol ac ymdriniaethau o unrhyw fath ar y pwnc. Unwaith eto golyga hyn fod y cyhoeddiadau mewn nifer o ieithoedd gwahanol.