Symud i'r prif gynnwys


Nofelydd oedd W. D. Owen. Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei stori ‘Madam Wen’, a ymddangosodd gyntaf yn yr wythnosolyn radical ‘Y Genedl Gymreig’. Roedd ysgrifennu Owen yn llawn mynegiant a gosodwyd y stori ramantus hon yn Ynys Môn yn y 18fed ganrif. Mae’r stori gyffrous yn adrodd hanes arwres nid anhebyg i Robin Hood. Mae gwreiddiau hanesyddol y stori yn aneglur, ond dywedir iddi gael ei seilio ar gymeriadau go iawn a fu’n byw yn yr ardal.