Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Llinell Amser hanes Plaid Cymru 1925-2025
Mae Archif Plaid Cymru ynghyd â llawer o gyhoeddiadau'r blaid ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer defnydd ymchwilwyr. Er mwyn nodi can mlynedd ers sefydlu Plaid Cymru yn 1925, mae detholiad o faniffestos, cyhoeddiadau eraill a deunydd archifol wedi cael eu digido er mwyn creu llinell amser yn nodi uchafbwyntiau hanes y blaid.
Cynhelir cyfarfod i sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru adeg Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Pwllheli.
Llyfr cofnodion 1925-1932 (Archif Plaid Cymru A26)
Lewis Valentine yn sefyll dros Blaid Genedlaethol Cymru yn yr Etholiad Cyffredinol yn etholaeth Sir Gaernarfon gan ennill 609 o bleidleisiau.
Anerchiad etholiad Lewis Valentine (Welsh Political Ephemera Collection A4/1)
Plaid Genedlaethol Cymru yn mabwysiadu'r Triban fel logo'r blaid.
Llyfr cofnodion 1932-1938 (Archif Plaid Cymru A27)
Saunders Lewis, Lewis Valentine a D. J. Williams yn cynnau tân ar safle Ysgol Fomio'r Awyrlu Brenhinol ym Mhenyberth i brotestio yn erbyn y datblygiad milwrol mewn safle o bwysigrwydd hanesyddol Cymreig.
Paham y Llosgasom yr Ysgol Fomio (Archif Plaid Cymru O26-27)
Plaid Cymru yn protestio yn erbyn sefydlu Ysgol Fomio'r Awyrlu ym Mhorth Neigwl
Protest against the establishment of a Bombing School at Porth Neigwl (XJN1193 W46)
Taflen yn amlinellu amcanion a rhaglen bresennol Plaid Genedlaethol Cymru (XJN1193 W46)
Ail Ryfel Byd yn dechrau. Plaid Cymru yn ymgyrchu yn erbyn gorfodaeth filwrol.
Taflen cyfarfod gwrth-orfodaeth (Welsh Political Ephemera Collection A4/1)
Saunders Lewis yn sefyll yn Isetholiad Prifysgol Cymru gan ennill 1,330 pleidlais.
Anerchiad etholiad Saunders Lewis (Welsh Political Ephemera Collection A4/1)
Gwenan Jones, y fenyw gyntaf i sefyll mewn Etholiad Cyffredinol yn enw Plaid Cymru, gan ennill 1,696 pleidlais yn yr Etholiad Cyffredinol yn etholaeth Prifysgol Cymru.
Anerchiad Etholiad Gwenan Jones (Welsh Political Collection A4/1)
Gwynfor Evans yn cael ei ethol yn Llywydd Plaid Cymru.
Gwynfor Evans gan Alfred Janes (CCC PFC5a/6)
Cyfansoddiad a Rheolau Sefydlog Plaid Genedlaethol Cymru 1945 (Archif Plaid Cymru O041)
Brwydr Cymru (Archif Plaid Cymru O1140)
Rali Plaid Cymru: Senedd i Gymru o Fewn Pum mlynedd.
Rali Plaid Cymru i lansio ymgyrch Senedd i Gymru o Fewn Pum Mlynedd ym Machynlleth (Casgliad Geoff Charles Collection)
Lansio Ymgyrch Senedd i Gymru.
Senedd i Gymru (Archif Plaid Cymru O450)
Polisi Amaethyddol Plaid Cymru (Archif Plaid Cymru O103)
Protestiadau yn erbyn cynlluniau Corfforaeth Lerpwl i foddi Cwm Tryweryn ar gyfer cronfa ddŵr i'r ddinas yn dechrau.
Rali Plaid Cymru 1956 (XJN1193.W46)
Protest yn Lerpwl yn erbyn boddi Cwm Tryweryn (Casgliad Geoff Charles Collection)
Llythyr i Lerpwl gan Gwynfor Evans (Archif Plaid Cymru B672/ii)
Gwersi Tryweryn (Archif Plaid Cymru O105)
80 Cwestiwn ac Ateb (Archif Plaid Cymru O102)
Adran Menywod Plaid Cymru yn gwneud yr achos yn erbyn lledaenu arfau niwclear.
Y Cwestiwn Mawr (Welsh Political Ephemera Collection A4/2)
Emrys Roberts yn sefyll yn Isetholiad Glynebwy yn dilyn marwolaeth Aneurin Bevan.
Lluniau o ymgyrch Isetholiad Glynebwy (Casgliad Geoff Charles Collection)
Araith radio Saunders Lewis Tynged yr Iaith, sy'n arwain at sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a phrotestiadau dros ddefnydd swyddogol o'r iaith.
Etholiad Cyffredinol.
Datganiad Maniffesto Plaid Cymru (Papurau Plaid Cymru Rhanbarth Ceredigion 37)
Darllediad Gwleidyddol cyntaf Plaid Cymru.
Ethol Gwynfor Evans yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru yn Isetholiad Caerfyrddin.
Rhyddid i Gymru; araith gyntaf Gwynfor Evans yn y Senedd (Archif Plaid Cymru O53)
Vic Davies yn dod yn ail yn Isetholiad Gorllewin Rhondda gyda 39.9% o'r bleidlais.
Phil Williams yn dod yn ail yn Isetholiad Caerffili gan ennill 40.4% o'r bleidlais.
Anerchiad Etholiad Phil Williams (Welsh Political Ephemera Collection A4/2)
Etholiad Cyffredinol.
Maniffesto: Gweithio dros Gymru (Archif Plaid Cymru O255)
Darllediad Etholiad Plaid Cymru (Saesneg)
(Archif ITV Cymru)
Cyfansoddiad Plaid Cymru (Archif Plaid Cymru O68)
Cynhelir dau Etholiad Cyffredinol. Dafydd Wigley a Dafydd Elis Thomas yn cael eu hethol yng Nghaernarfon a Meirionnydd yn yr Etholiad Cyffredinol a gynhaliwyd ym mis Chwefror.
Lluniau cyhoeddi canlyniad Etholiad Cyffredinol Hydref 1974 yn etholaeth Arfon (Casgliad Geoff Charles Collection)
Maniffesto (Chwefror1974): Cymru Gyfoethog neu Brydain Dlawd (Papurau Alwyn D Rees F39)
Ailethol Gwynfor Evans fel Aelod Seneddol dros Gaerfyrddin yn Etholiad Cyffredinol Hydref 1974.
Maniffesto (Hydref 1974): Nerth i Gymru (Archif Plaid Cymru 01295/i)
Colofnau'r Ddraig 1926-1976 (Archif Plaid Cymru O235)
Cymru yn pleidleisio yn erbyn cynlluniau datganoli y Llywodraeth mewn refferendwm ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Effemera ymgyrch refferendwm datganoli (Welsh Political Ephemera Collection C3/12)
Llywodraeth Geidwadol dan arweinyddiaeth Margaret Thatcher yn cael ei ethol yn yr Etholiad Cyffredinol.
Maniffesto: Dyfodol i Gymru (XJN1193P69)
Ymgeiswyr Plaid Cymru yn sefyll yn etholiad cyntaf i Senedd Ewrop.
Maniffesto: Llais i Gymru yn Ewrop (Labour Party Wales Archives, Item 155/i)
Y Llywodraeth yn gwneud tro pedol ar ei addewid i sefydlu sianel teledu Cymraeg a Gwynfor Evans yn bygwth ymprydio i farwolaeth nes iddynt wyrdroi'r penderfyniad. Lansiwyd S4C yn 1982.
Dafydd Wigley yn cael ei ethol yn Llywydd Plaid Cymru.
Ffurfio Grŵp Chwith Cenedlaethol i hyrwyddo hunanlywodraeth a sosialaeth fel un o brif nodau Plaid Cymru.
Ffurfio Grŵp Hydro gyda'r nod o hyrwyddo ymreolaeth heb gred wleidyddol arall fel prif nod Plaid Cymru.
Dafydd Wigley a Dafydd Elis Thomas yn cael eu hailethol yn yr Etholiad Cyffredinol.
Maniffesto: Plaid Cymru: The Only Alternative (Archif Plaid Cymru J321)
Dafydd Elis Thomas yn cael ei ethol yn Llywydd Plaid Cymru.
Etholiad Senedd Ewrop.
Maniffesto: Llais i Gymru yn Ewrop (Archif Plaid Cymru O2360)
Streic y Glowyr.
Ieuan Wyn Jones yn cael ei ethol yn Aelod Seneddol Ynys Môn yn yr Etholiad Cyffredinol.
Maniffesto: Ennill dros Gymru (XJM1193P69)
Dafydd Wigley yn cael ei ethol yn Llywydd Plaid Cymru am yr eildro.
Cynog Dafis yn ennill etholaeth Ceredigion a Gogledd Penfro gan sefyll ar ran Plaid Cymru a'r Blaid Werdd.
Copi teipysgrif o araith forwynol Cynog Dafis fel Aelod Seneddol (Papurau Cynog Dafis 11)
Etholiad Senedd Ewrop.
Maniffesto: Gweithio dros Gymru yn Ewrop (Dyb1996A2938)
Plaid Cymru yn ennill mwyafrif ar Gyngor Gwynedd, y tro cyntaf iddi ennill mwyafrif ar gyngor sir.
Plaid Cymru yn ennill pedair sedd yn yr Etholiad Cyffredinol.
Maniffesto: Y Gorau i Gymru (XJN1193P69 4to)
Cymru yn pleidleisio dros sefydlu Cynulliad Cenedlaethol mewn refferendwm ar 18 Medi.
Effemera ymgyrch refferendwm datganoli (Welsh Political Ephemera Collection C3/25)
Plaid Cymru yn ennill 17 sedd yn etholiad cyntaf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan gynnwys Islwyn, Rhondda a Llanelli.
Maniffesto: Cyrchu at y Gymru Newydd (Dyb1999C252)
Plaid Cymru yn ennill seddi yn Senedd Ewrop am y tro cyntaf, gyda Jill Evans ac Eurig Wyn yn cael eu hethol.
Dafydd Elis-Thomas yn cael ei ethol yn Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Ieuan Wyn Jones yn cael ei ethol yn Llywydd Plaid Cymru.
Adam Price yn ennill sedd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn yr Etholiad Cyffredinol.
Maniffesto 2001 (Dyb2001C29)
Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Maniffesto 2003 (XJN1193.P69)
Jill Evans yn cael ei hailethol i Senedd Ewrop tra bod nifer o seddi Cymru yn cael eu torri o 5 i 4.
Maniffesto: Brwydro'n Galed dros Gymru (XJN1193.F47)
Etholiad Cyffredinol.
Maniffesto: Adeiladwn Gymru Newydd (Dyb2005C185)
Plaid Cymru yn lansio logo newydd yn lle'r Triban.
Mohammad Asghar, Aelod Cynulliad o leiafrif ethnig cyntaf Plaid Cymru yn cael ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Maniffesto: Gwna Wahaniaeth (2008 XC 4244)
Plaid Cymru yn mynd i glymblaid gyda Llafur Cymru, gydag Ieuan Wyn Jones yn Ddirprwy Brif Weinidog.
Outline framework for a Labour and Plaid Cymru Programme of Government (Papurau Ieuan Wyn Jones E5/3)
One Wales: A progressive agenda for the Government of Wales (Papurau Ieuan Wyn Jones E5/3)
Etholiad Senedd Ewrop.
Maniffesto: Yma i Chi (2013 XC 1857)
Cymru yn pleidleisio i roi pwerau deddfu i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn refferendwm ar 3 Mawrth.
Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Maniffesto; Maen i'r Wal (Ffeil digidol trwy law Plaid Cymru; copi LlGC 2011 XA 2140)
Delme Bowen yn cael ei ethol yn Arglwydd Faer Caerdydd, gwleidydd cyntaf Plaid Cymru yn y swydd.
Leanne Wood yn cael ei hethol yn Arweinydd Plaid Cymru.
Anerchiadau ar gyfer etholiad yr Arweinydd (Welsh Political Ephemera Collection C1/5/26)
Etholiad Senedd Ewrop.
Maniffesto: Cymru'n Gyntaf (2014 XC 819)
Liz Saville Roberts, y fenyw gyntaf i gynrychioli Plaid Cymru yn San Steffan yn cael ei hethol yn AS Dwyfor Meirionnydd yn yr Etholiad Cyffredinol.
Anerchiadau etholiad Liz Saville Roberts (Welsh Political Ephemera Collection BA9/20)
Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Maniffesto: Y Newid sydd ei Angen (2014 XC 2168)
Ethol Elin Jones yn Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Theresa May yn galw Etholiad Cyffredinol i gael mandad i negodi i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.
Maniffesto: Cryfhau Cymunedau Cryfhau Cymru (2014 XC 3032)
Ethol Adam Price yn Arweinydd Plaid Cymru.
Etholiad Senedd Ewrop.
Maniffesto: Gwnewch i Gymru Gyfrif (2018 XC 45)
Etholiad Cyffredinol.
Maniffesto: Ni Yw Cymru (Ffeil digidol trwy law Plaid Cymru, copi LLGC yn Archif Plaid Cymru, J340)
Ailenwi'r Cynulliad yn Senedd Cymru.
Etholiad Senedd Cymru.
Maniffesto: Gyda'n Gilydd Adeiladwn Gymru Newydd (Ffeil digidol trwy law Plaid Cymru; Copi LLGC yn Archif Plaid Cymru, J340)
Rhun ap Iorwerth yn cael ei ethol yn Arweinydd Plaid Cymru.
Plaid Cymru yn ennill pedair sedd yn yr Etholiad Cyffredinol.
Maniffesto: Dros Degwch, Dros Uchelgais, Dros Gymru (2018 XC 3088)
Deunydd Clyweledol
Mae mwy o ddarllediadau teledu am Blaid Cymru gan gynnwys darllediadau gwleidyddol ac etholiadol, cyfweliadau a chlipiau o raglenni newyddion ar gae o Archif Darlledu Cymru. Mae modd eu gwylio:
Yn ardal astudio Archif Darlledu Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth neu yn un o'r Corneli Clip ar draws Cymru.