Pa fath o archifau sydd ar gael?
Mae’r casgliadau hyn yn cynnwys deunydd megis gohebiaeth, gweithiau drafft, dyddiaduron, llyfrau nodiadau, ffotograffau, cyfansoddiadau cerddorol ac eitemau personol eraill.
Rhestrir detholiad o’r casgliadau hyn isod ac maent yn dystiolaeth o’r cyfraniad i fywyd diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol Cymru a wnaethpwyd gan nifer o fenywod Cymreig. Bydd y dolenni yn eich arwain i lefel uchaf y cofnod catalog ar gyfer y casgliad hwn.