Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw'r gwasanaeth Corneli Clip ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio i ddatrys y rhain mor fuan â phosib. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae'n bosib na fyddwn ni'n gallu cyrchu ein holl ddeunydd archifol yn ystod yr wythnosau nesaf. Os fyddwch chi'n ymweld yn ystod y cyfnod hwn, gofynnwn i chi archebu unrhyw ddeunydd archifol cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae cyfartaledd uchel o’r archifau llenyddol sydd ar gadw yn y Llyfrgell yn deillio o’r 20fed ganrif. Mae natur y gwahanol gasgliadau yn amrywio’n fawr.
Weithiau cyfyngir y deunydd i lawysgrif neu deipysgrif o weithiau unigol, fel yn achos John Gwilym Jones neu T Rowland Hughes. Dro arall ceir rhychwant eang o bapurau, yn ddrafftiau, proflenni, llyfrau nodiadau, gohebiaeth ac eitemau personol.
Mae casgliad Kate Roberts yn enghraifft dda o archifau cynhwysfawr. Yn dilyn ei marwolaeth yn 1985 trosglwyddwyd y casgliad i’r Llyfrgell. Yn ogystal â drafftiau o’i gweithiau ceir dros 2000 o lythyrau a anfonwyd ati, ynghyd ag eitemau personol sy’n gysylltiedig â’i theulu, e.e. llyfr poced ei brawd, Dei, pan yn filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ymhlith yr awduron a gynrychiolir gan gasgliadau cynhwysfawr o’r fath, y mae:
Ymhlith awduron sydd â chasgliadau llai eang eu rhychwant, yn rhannol am nad oedd yr awduron wedi dewis cadw eu papurau i gyd, y mae:
Y gobaith yw medru denu nifer o awduron cyfoes i gyflwyno eu papurau i’r Llyfrgell. Eisoes cafwyd cnewyllyn da o ddrafftiau nofelau diweddar yr 20fed ganrif drwy roddion hael gan awduron fel Marion Eames a Jane Edwards.
Cadwyd casgliadau nifer o Archdderwyddon Cymru’r 20fed ganrif, gan gynnwys rhai:
Ceir casgliad eang o gyfansoddiadau anfuddugol eisteddfodau cenedlaethol y ganrif, ynghyd â ffeiliau gweinyddol yr Eisteddfod o ganol y ganrif ymlaen.
Carfan arall sydd wedi ei chynrychioli ymhlith ein daliadau yw archifau newyddiadurwyr, rhai fel E Morgan Humphreys, Meuryn ac E Prosser Rhys.
Ceir cyfres faith o ffeiliau Cyngor Celfyddydau Cymru o’i sefydlu, gan gynnwys rhai’n ymwneud â’r Adran Lenyddiaeth. Yn ogystal â chofnodion gweinyddol Adran Gymraeg yr Academi Gymreig, fe gafwyd archifau’r cylchgrawn Taliesin, y ffeiliau a gasglwyd wrth lunio’r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (1986), a’r arddangosfeydd a’r defnyddiau a gasglwyd gan Brosiect Ymchwil yr Academi yn ystod hanner olaf yr 80au.
Mae yma archifau cylchgronau allweddol eraill e.e. Y Llenor a Barn. Mae yn y Llyfrgell hefyd gasgliadau o archifau gweisg, megis Gwasg Gee a Hughes a’i Fab, sydd yn cynnig gohebiaeth gefndir i lawer cyfrol.
Ffynhonnell werthfawr arall yw archif sgriptiau’r BBC yng Nghymru. Mae’n cynnwys casgliad cynhwysfawr o sgriptiau sy’n dyddio o 1932 hyd heddiw. Ceir hefyd ddramâu, rhaglenni nodwedd a sgyrsiau gan awduron blaenllaw, ynghyd â defnyddiau mwy poblogaidd fel sgriptiau’r dramâu sebon ‘Teulu Tŷ Coch’ ar y radio gynt a Pobol y Cwm ar y teledu heddiw.
Yn y cyd-destun hwn hefyd dylid nodi bodolaeth Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru (AGSSC) sydd wedi bod wrthi’n casglu tapiau fideo o gynnyrch gorau S4C oddi ar sefydlu’r sianel yn 1982.
O blith casgliadau ac eitemau diddorol eraill ym maes llenyddiaeth yr 20fed, y mae:
O ehangu’r maes i gynnwys beirniadaeth lenyddol ac ysgrifennu ysgolheigaidd, gellid crybwyll casgliadau:
Mae rhai o’r casgliadau hyn yn gyfoethog iawn o ran gohebiaeth. Ceir llawer iawn o ohebiaeth hefyd yng nghasgliadau rhai fel: