Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'n bosib na fyddwn ni'n gallu cyrchu ein holl ddeunydd archifol rhwng 26 - 29 Mawrth 2025. Os fyddwch chi'n ymweld yn ystod y cyfnod hwn, gofynwn i chi archebu unrhyw ddeunydd archifol cyn 26 Mawrth os gwelwch yn dda. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae archifau llenyddol yn goroesi nid yn unig am fod y llenorion yn eu diogelu ond am eu bod yn rhan o archifau eu cyfeillion, eu golygyddion neu gyrff cyhoeddus a chyhoeddwyr.
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn gorff pwysig yn nhraddodiad llenyddol Cymru ac mae cyfansoddiadau a beirniadaethau Eisteddfodol o 1886 ymlaen yn y Llyfrgell.
Mae gennym bapurau Cyngor Celfyddydau Cymru er ei sefydlu yn 1967 sy’n cynnwys casgliad pwysig o archifau llenorion Cymreig.
Mae archif enfawr BBC Cymru yn cynnwys sgriptiau dramâu megis sgript gyntaf ‘Pobl y Cwm’, a sgyrsiau gan awduron amlwg o 1932 ymlaen.
Ceir hefyd archifau nifer o gyhoeddwyr a chylchgronau llenyddol.
Dyma rai o'r awduron amlycaf yn ein casgliadau, ond nid yw popeth yn y rhestr hon a dylid chwilio’r catalogau am fanylion pellach. Gellir cael mynediad i’r archifau hynny sydd wedi eu catalogio drwy chwilio Prif Gatalog y Llyfrgell.