Mae’r Llyfrgell wedi casglu papurau a llawysgrifau:
- beirdd
- llenorion
- dramodwyr
- archdderwyddon
- newyddiadurwyr
- ysgolheigion
a ddaeth yn amlwg yn ystod yr 20fed ganrif.
a ddaeth yn amlwg yn ystod yr 20fed ganrif.
Beth am weld copi drafft o nofel fwyaf poblogaidd yr 20fed ganrif, Cysgod y Cryman gan Islwyn Ffowc Elis, neu ddrafft o Y Stafell Ddirgel gan Marion Eames, a Chyfres Rwdlan gan Angharad Tomos?
Beth am ddarllen llythyrau Saunders Lewis at Kate Roberts, neu lythyrau at Rydwen Williams ac Alwyn D Rees pan oeddynt yn golygu ‘Barn’? Beth am weld dyddiaduron Caradog Prichard neu Euros Bowen?
Ceir amrywiaeth eang o farddoniaeth, megis copi llawysgrif o Caniadau Gwili, copïau yn llaw R Williams Parry o Cerddi’r Gaeaf, copi llawysgrif o awdl fuddugol Y Mynach gan Gwenallt, ac awdl Y Mynydd gan T H Parry-Williams.
Dyma rai o'r awduron amlycaf yn ein casgliadau, ond nid yw popeth yn y rhestr hon a dylid chwilio’r catalogau am fanylion pellach. Gellir cael mynediad i’r archifau hynny sydd wedi eu catalogio drwy chwilio catalog Archifau a Llawysgrifau LlGC.