Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gartref i archifau rhai o feirdd a llenorion modern pwysicaf Cymru. Maent yn adnodd ymchwil gwerthfawr ar gyfer astudio llenyddiaeth a bywydau awduron yr 20fed ganrif a’r ganrif hon.
e.e. T Gwyn Jones, R Williams Parry, T H Parry-Williams, W J Gruffydd, Kate Roberts, Saunders Lewis, Islwyn Ffowc Elis, Angharad Tomos…
e.e. Jack Jones, Alun Lewis, John Cowper Powys, Brenda Chamberlain, Gwyn Thomas, Rhys Davies, David Jones, Vernon Watkins, Idris Davies, Gwyn Jones, Raymond Williams…
e.e. Cyngor Celfyddydau Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, BBC (Cymru), Yr Academi Gymreig, Y Faner, Gwasg Gee…
Mae pob archif yn unigryw - gall amrywio o archif gynhwysfawr i lawysgrifau unigol. Yn aml fe geir drafftiau o weithiau, gohebiaeth, a phapurau personol.
Efallai bod un llenor wedi cadw llyfrau nodiadau, drafftiau llawysgrif, drafftiau teipysgrif, proflenni, ac adolygiadau yn y wasg tra bo un arall heb gadw unrhyw ddrafftiau o’i weithiau.
Mae’r un peth yn wir gyda gohebiaeth – weithiau ceir ffeiliau cyflawn o ohebiaeth bersonol a phroffesiynol, ond dro arall nifer bychan o lythyrau sydd wedi goroesi.
Mae papurau personol yn medru taflu goleuni ar yr awdur a’i waith, ac yn achlysurol ceir dyddiaduron, ffotograffau, a phapurau teuluol. Weithiau nid oes gennym gasgliad o bapurau’r llenor ei hun, ond mae llythyrau neu lawysgrifau yn goroesi ymysg papurau pobl eraill.
Mae drafftiau yn medru dangos y broses greadigol, datblygiad y testun, newidiadau mewn steil a strwythur ac yn medru helpu i ddyddio’r gwaith.
Gall yr ohebiaeth daflu goleuni ar fywyd a syniadau’r awduron, eu cylch o ffrindiau a’u dylanwadau.
Gall y papurau personol gynnwys gwybodaeth bwysig i fywgraffyddion, golygyddion, haneswyr cymdeithasol, myfyrwyr sy’n astudio llenyddiaeth, neu edmygwyr selog.