Symud i'r prif gynnwys

Y Diwydiant Dŵr

Llywodraeth a Chynulliad Cenedlaethol Cymru/Senedd Cymru

  • Cynulliad Cenedlaethol Cymru/Senedd Cymru: Mae archif Cynulliad Cenedlaethol Cymru (h.y. y ddeddfwrfa) ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Trosglwyddwyd y gyfres gyntaf o gofnodion i’r Llyfrgell yn Mai 2017. Gellir pori'r archif ar y Prif Gatalog er bod mynediad yn gyfyngedig. Disgwylir croniadau pellach i’r archif yn y dyfodol. Ceir mynediad at ran fwyaf o'r ffeiliau ar wefan Senedd Cymru. Er bod enw'r Cynulliad wedi newid mae enw'r archif yn adlewyrchu aded cafodd yr archif ei chreu.
  • Senedd Building Lord Callaghan (New Welsh National Assembly Building) Papers
  • Llywodraeth Cymru: Mae cofnodion hanesyddol Llywodraeth Cymru (h.y. y corff gweithredol, hefyd a elwid Llywodraeth Cynulliad Cymru) ar gael drwy’r Archifau Gwladol (The National Archives) (gwefan allanol – Saesneg yn unig). Caiff y ddarpariaeth yma ei ffurfioli yn y Concordat rhwng Yr Archifau Gwladol a Llywodraeth Cymru . Mae’r cofnodion yma yn gaeedig am 20 mlynedd oni nodir yn wahanol (gostyngiad graddol o 30 i 20 mlynedd).  
  • Y Swyddfa Gymreig: Mae cofnodion y Swyddfa Gymreig hefyd ar gael drwy’r Archifau Gwladol (gwefan allanol – Saesneg yn unig). Mae’r cofnodion yma yn gaeedig am 20 mlynedd oni nodir yn wahanol (gostyngiad graddol o 30 i 20 mlynedd).  
  • Adnoddau arlein - Copiau archif gwefannau a ffrydiau Trydar Llywodraeth Cymru, Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru gynt), Aelodau o'r Senedd (Aelodau'r Cynulliad), Aelodau Senedd y DU, Llywodraeth y DU, llywodraeth leol ac arolygaethau. Rhai adnoddau ar gael o few adeilad y Llyfrgell yn unig oherwydd cyfyngiadau hawlfraint.

Iwerddon

Materion Rhyngwladol

Ymgyrchoedd a Chymdeithas Sifig