Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Crëwyd swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn 1964 er i weinidogion yn y Swyddfa Gartref â chyfrifoldeb penodol dros Faterion Cymreig gael eu penodi gyntaf yn y 1950au. Cynyddwyd cyfrifoldebau Ysgrifenyddion Gwladol Cymru yn raddol tan 1999 pan gafodd y rhan fwyaf ohonynt eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Ysgrifennydd Gwladol Cymru sydd bellach yn gyfrifol am gyfeiriad strategol cyffredinol Llywodraeth y DU yng Nghymru.
Mae'r Archif Wleidyddol Gymreig yn mynd ati i gasglu papurau Ysgrifenyddion Gwladol Cymru. Isod mae dolenni’r catalog ar gyfer papurau Ysgrifenyddion Gwladol Cymru sydd yn y casgliad:
Cedwir papurau William Hague yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen
Mae papurau nifer o weinidogion y Swyddfa Gymreig yn y Llyfrgell