Archif Gareth Vaughan Jones
Rhoddwyd yr archif i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gan aelodau o deulu Gareth Jones; Miss G. V. Vaughan Jones; Dr Margaret Siriol Colley a Mr Nigel Colley; gyda deunydd hefyd yn rhoddedig gan Dr Prys. Morgan a phwrcas o Siop Lyfrau Dylans, Abertawe. Mae’r Llyfrgell yn cydnabod haelioni’r teulu a’u cefnogaeth barhaus i sicrhau bod archif Gareth ar gael i’r cyhoedd.
Mae’r casgliad yn cynnwys ‘dyddiadur Hitler’ enwog a gadwyd gan Jones yn ystod ei ymweliad â’r Almaen yng ngwanwyn 1933 lle disgrifia amgylchiadau byw a rhai digwyddiadau o fewn yr Almaen adeg y Natsïaid yn fuan ar ôl i Hitler ddod i rym yno. Mae hefyd yn cynnig asesiadau hynod o dreiddgar o Hitler ei hun a Goebbels. Yn Chwefror 1933, Gareth oedd y newyddiadurwr tramor cyntaf i hedfan gydag Adolf Hitler, yn dilyn ei beonodiad yn Ganghellor mis yng nghynt, i rali etholiad yn Frankfurt-am-Main.
Mae grŵp pellach o chwe dyddiadur poced yn disgrifio mewn cryn fanylder ymweliadau Jones â'r Undeb Sofietaidd rhwng 1931 a 1933, yn arbennig ei deithiau o fewn y wlad, a’r bobl mae’n eu cyfarfod. Roedd y newyn mawr yn yr Undeb Sofietaidd yn gyfrifol am filynau o farwolaethau yn Kasakhstan ac Ukraine, ac roedd Gareth Jones bron yn unigryw yn adrodd amdanynt yn y papurau newydd Prydeinig ar y pryd. Dyddiaduron Gareth Jones efallai oedd yr unig gadarnhad annibynnol o weithred waethaf Stalin.