Symud i'r prif gynnwys

Pwy oedd David Lloyd George?

Cafodd ei eni ym Manceinion, ond cafodd ei fagu yn Llanystumdwy, Sir Gaernarfon lle astudiodd i fod yn gyfreithiwr cyn cael ei ethol yn Aelod Seneddol dros Fwrdeistrefi Caernarfon yn 1890. Roedd yn ffigwr amlwg yn ymgyrchoedd ar faterion radicalaidd megis Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru a thros ymreolaeth i Gymru, a dalodd nifer o swyddi yn y Cabinet gan gynnwys Llywydd y Bwrdd Masnach a Changhellor y Trysorlys. Yn y swydd honno roedd yn gyfrifol am gael Mesur Pensiynau'r Henoed drwy Dŷ'r Cyffredin a chyflwyno mesur Yswiriant Cenedlaethol yn cynnwys darpariaeth ar gyfer afiechyd a diweithdra.

Yn ystod y Rhyfel mawr, fe’i penodwyd yn Weinidog Arfau, ac yn mis Rhagfyr 1916 ddaeth yn Brif Weinidog. Yn dilyn y rhyfel, enillodd ‘etholiad y cwpon’ yn 1918 ac arhosodd yn Brif Weinidog llywodraeth clymblaid. Gwynebodd nifer o faterion heriol yn y cyfnod hwn gan gynnwys Cytundeb Heddwch Versailles a Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon.

Mwy o wybodaeth am David Lloyd George ar y Bywgraffiadur Cymreig

Casgliadau David Lloyd George

Awgrymwyd wrth Lloyd George un tro mai Llyfrgell Genedlaethol Cymru fyddai ei `fawsolëwm llenyddol'. Dros y blynyddoedd mae'r Llyfrgell wedi derbyn sawl casgliad pwysig o ohebiaeth a phapurau Lloyd George ynghyd â chasgliadau eraill yn ymwneud â’i fywyd a’i yrfa.