Pwy oedd yr Arglwydd Davies o Landinam?
Roedd yr Arglwydd Davies yn ddiwydiannwr, dyngarwr a gwleidydd ac yn ŵyr i David Davies, Llandinam.
Cynrychiolodd Sir Drefaldwyn fel Aelod Seneddol dros y Rhyddfrydwyr rhwng 1906 a 1929 ac ar ôl ymladd yn y Rhyfel Mawr cafodd ei benodi yn Ysgrifennydd Seneddol i David Lloyd George ym mis Mehefin 1916.
Yn dilyn ei brofiadau yn ystod y Rhyfel daeth yn ymgyrchwr brwd dros drefn rhyngwladol i osgoi rhyfeloedd gan sefydlu y New Commonwealth Society. Roedd y gymdeithas yn weithgar iawn yn nifer o wledydd yn ffurfio a hyrwyddo syniadau am awdurdod, cyfraith, heddlu ac awyrlu rhyngwladol i gadw heddwch.
Roedd Davies hefyd yn allweddol yn y frwydr yn erbyn y darfodedigaeth fel ffigwr blaengar ac ariannwr y King Edward VII Welsh National Memorial Association, ac ariannu cadair yn y darfodedigaeth yn Ysgol Feddyginiaeth Cymru.
Cewch fwy o wybodaeth am ei fywyd a’i yrfa ar dudalen y Bywgraffiadur Cymreig a'r erthygl 'David Davies 75: Internationalist ‘Father’ of the Temple of Peace' ar wefan Canolfan Materion rhyngwladol Cymru.