Symud i'r prif gynnwys

Cyhoeddwyd y cyfieithiad Cymraeg cyntaf o'r Beibl cyfan gan gynnwys yr Apocryffa yn y flwyddyn 1588. Gwaith William Morgan, 1545-1604, ydoedd, gŵr a aned ym Mhenmachno, Conwy ac a raddiodd o Goleg Ieuan Sant yng Nghaergrawnt. Argraffwyd y gyfrol ffolio hon mewn llythyren ddu gan ddirprwyon Christopher Barker, Argraffydd i'r Frenhines, ac fe'i bwriadwyd i'w defnyddio mewn eglwysi yn hytrach nag yn y cartref.

Diau mai ychydig iawn o Gymry yn y cyfnod 1536-1542 (adeg y Deddfau Uno) a fyddai wedi rhagweld cyhoeddi cyfieithiad Cymraeg o'r Beibl cyfan cyn diwedd y ganrif. Yr oedd hynny'n annhebygol am fwy nag un rheswm. Cofir i'r Deddfau Uno wrthod statws swyddogol i'r Gymraeg a'i halltudio o fyd y gyfraith a gweinyddu. Ar ben hynny yr oedd deddf mewn bodolaeth a fynnai fod y Beibl Saesneg a'r Llyfr Gweddi Gyffredin Saesneg yn cael eu darllen ym mhob eglwys drwy'r wlad. Tua'r adeg yma hefyd gwelid arwyddion sicr fod dylanwad a phwysigrwydd urdd y beirdd, cynheiliaid traddodiadol yr iaith lenyddol, yn edwino. Ymddangosai'n debygol y byddai'r Gymraeg yn dirywio i fod yn gasgliad o dafodieithoedd dirmygedig ac, ymhen amser, yn marw. Mae'r ffaith na ddaeth hyn i fod i'w phriodoli i ymdrechion mintai o ysgolheigion Cymreig llawn brwdfrydedd dros ddysg ddyneiddiol y Dadeni. Protestaniaid oedd y mwyafrif ohonynt, wedi eu tanio gan sêl Brotestannaidd dros geisio sicrhau fod yr Ysgrythurau ar gael i bawb. Gwŷr hyddysg yn yr ieithoedd clasurol a'u llên oeddynt, ysgolheigion a freuddwydiai am weld yr iaith frodorol wedi ei hatgyfnerthu a'i datblygu i fod yn iaith dysg. Llwyddasant i raddau helaeth i droi'r freuddwyd yn ffaith drwy eu geiriaduron, eu gramadegau a'u cyfieithiadau o'r Ysgrythyrau. Beibl William Morgan yw'r pwysicaf o ddigon o'r cyfieithiadau hynny.

Yn y flwyddyn 1563 darbwyllwyd y Senedd i basio mesur yn awdurdodi cyfieithu'r Beibl a'r Llyfr Gweddi i'r Gymraeg erbyn Gŵyl Ddewi 1567. Er na ddigwyddodd hynny, fe gyhoeddwyd yn y flwyddyn honno gyfieithiad o'r Testament Newydd ac un o'r Llyfr Gweddi. William Salesbury, c.1520-1584?, fu'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r gwaith. Lluniodd fersiynau cywir a chanmoladwy ond amharwyd ar eu gwerth gan ei hoffter o ffurfiau hynafol ac orgraff hynod a mympwyol. Gwaith William Morgan oedd y cyfieithiad ardderchog o'r Beibl a ymddangosodd un mlynedd ar hugain yn ddiweddarach. Ymddengys iddo benderfynu ymgymryd â'r gwaith rywbryd tuag 1578. Golygai'r dasg enfawr hon addasu cyfieithiad Salesbury o'r Testament newydd yn ogystal â gwaith gwreiddiol ar yr Hen Destament a'r Apocryffa. Seiliodd ei gyfieithiad ar y testunau Hebraeg a Groeg gwreiddiol gan wneud defnydd hefyd o fersiynau Saesneg yr Esgobion a Genefa. Trwy ymdrechion William Morgan cyflwynwyd yr Ysgrythurau i genedl a oedd, i raddau helaeth, yn uniaith Gymraeg. Cyffyrddodd ei gyfrol â bywydau miloedd dirifedi. Argraffiad diwygiedig 1620, gyda rhai newidiadau yn yr orgraff, oedd y fersiwn a ddefnyddid yn gyffredinol hyd at flynyddoedd olaf yr ugeinfed ganrif. Dyma'r llyfr Cymraeg mwyaf ei ddylanwad o ddigon gan fod iddo hefyd arwyddocâd ieithyddol enfawr. Camp William Morgan oedd creu cyfieithiad a oedd yn gwbl ffyddlon i'r gwreiddiol a hynny yn yr iaith lenyddol sydd yn gyfarwydd i ni heddiw. Llwyddodd i wneud hynny drwy addasu iaith glasurol y beirdd mewn dull celfydd a deheuig. Mewn gair, dyma'r gyfrol a fu'n sail i lenyddiaeth Gymraeg y cyfnod modern.