Symud i'r prif gynnwys

30.06.21

‘Hir pob aros’, ond wedi dros flwyddyn o fod ar gau, bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal arddangosfeydd unwaith yn rhagor dros yr Haf i ymwelwyr sydd wedi archebu tocynnau ymlaen llaw. Bydd arddangosfeydd yn ailagor o Ddydd Llun 19 Gorffennaf ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu ymwelwyr yn ôl i’r adeilad.

Mae Byd Llenyddol Paul Peter Piech yn ddathliad o berthynas unigryw'r gwneuthurwr printiau Americanaidd â Chymru a llenyddiaeth. Er yn fwyaf adnabyddus am ei bosteri gwleidyddol trawiadol, mae cyfran o’i waith yn ymwneud â’r byd llenyddol. Treuliodd ddegawd olaf ei fywyd ym Mhorthcawl, ble parhaodd i weithio a chael ei ddylanwadu’n fawr gan ddiwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg. Mae’r arddangosfa hon yn dathlu ei gyfraniad i gelf weledol yng Nghymru, yn ogystal â’r llenorion a bortrewyd  ganddo.

Yn arddangosfa’r ffotograffydd Nick Treharne, Portread o Gymru, gellir gweld ugain delwedd o’r Gymru fodern. Ers 2018, ‘gweledigaeth’ Nick fu adeiladu portffolio cynhwysfawr o fywyd yng Nghymru. Mae’n feistr ar arsylwi ac yn medru chwilio a chanfod eiliadau cyfareddol ar y strydoedd, yng nghefn gwlad ac yn y llu o ddigwyddiadau sy'n digwydd bob blwyddyn. O ddigwyddiadau a thraddodiadau sy'n rhan annatod o fywyd Cymru, i bortreadau o'r cymeriadau ysbrydoledig a diddorol y mae wedi cwrdd â nhw ar ei deithiau, mae'r gŵr hwn sydd wrth ei fodd â’r “hanner eiliad” yn trawsnewid pynciau cyffredin bob dydd yn rhywbeth eithriadol.

Mae gan y Llyfrgell gasgliad eang iawn o weithiau celf ar bapur, ac yn arddangosfa Ar Bapur gwelir printiadau, lluniau dyfrlliw, gludweithiau, llyfrau braslunio a pheintiadau gan rai o artistiaid amlycaf Cymru. Â phynciau’n amrywio o archwiliadau o weithredu gwleidyddol, hiliaeth a bywyd ffoaduriaid ochr yn ochr â phynciau mwy traddodiadol fel y ffurf ddynol a’r byd naturiol, mae’r arddangosfa hon yn cynnig cipolwg i amrywiaeth a chyfoeth y gweithiau ar bapur yn ein casgliadau.

Trwy gydol yr Haf hefyd bydd cyfle i ymwelwyr weld Oriel Gregynog, sydd yn edrych yn ogoneddus wedi iddi gael ei hadnewyddu yn ddiweddar.

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol:
“Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at fedru croesawu’r cyhoedd yn ôl i ymweld â’n harddangosfeydd. Er bod y Llyfrgell wedi parhau i fod ar agor yn ddigidol trwy gydol y cyfnodau clo a darllenwyr wedi medru dychwelyd i’r adeilad i weithio, rwy’n ymwybodol iawn bod nifer yn awyddus i fedru ymweld eto â’r Llyfrgell i fwynhau gwledd ein casgliadau arbennig. Er y bydd yr amgylchiadau yn gorfod bod ychydig yn wahanol er mwyn diogelu pawb, bydd y croeso'r un mor dwymgalon ag erioed.”

Mae diogelwch ein hymwelwyr a’n staff yn flaenoriaeth i’r Llyfrgell, ac felly i leihau’r peryg o ledaeniad Covid-19 byddwch yn gweld fod rhai pethau wedi newid, sy’n golygu efallai bod profiad yr ymwelydd ychydig yn wahanol i’r arfer.

Bydd angen i ni reoli nifer yr ymwelwyr sy’n gallu ymweld â’r adeilad yr un pryd ac felly rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw gan ddangos tocyn dilys yn y dderbynfa wrth gyrraedd. Bydd siop y Llyfrgell a Chaffi Pendinas hefyd ar gael fel rhan o’r ymweliad wrth ddangos tocyn dilys. Mae manylion llawn yr holl fesurau diogelwch i’w gweld ar ein gwefan.

**This press release is also available in English**


--DIWEDD—
Gwybodaeth Bellach
Nia Wyn Dafydd
post@llgc.org.uk