Symud i'r prif gynnwys

13.09.2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi penodiad Ashok Ahir yn Llywydd Dros Dro ac Ymddiriedolwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol:

"Rydym wrth ein bodd gyda'r penodiad rhagorol hwn ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr i Ashok ymuno â ni, elwa o'i brofiad a'i wybodaeth eang ac i weithio gydag ef dros y misoedd nesaf.”

"Wrth groesawu Ashok i'r Llyfrgell, hoffwn ddiolch i Meri Huws, cyn-Lywydd dros dro, am y cyfraniad enfawr y mae wedi'i wneud i'r Llyfrgell yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, a dymuno'n dda iddi hi a'r sefydliadau y mae'n eu gwasanaethu ar gyfer y dyfodol.”

"Mae Ashok yn ymuno â ni ar gychwyn pennod cyffrous arall yn ein hanes wrth i ni lansio ein Cynllun Strategol newydd ar gyfer 2021-2026 - Llyfrgell i Gymru a'r Byd - ymhen ychydig wythnosau. Er i ni wneud cynnydd arwyddocaol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, byddwn yn cychwyn y bennod hon gyda phenderfyniad ac awch i gyflawni mwy eto. Mae ein cynllun yn anelu at ddyfodol ble byddwn yn parhau i ddefnyddio ein hystod unigryw o sgiliau ac arbenigedd i feithrin a gofalu am gof y genedl, gosod sylfaen economi gwybodaeth, grymuso ymchwil a dysg, bod yn ganolog i fywyd y genedl a chefnogi amcanion polisi cyhoeddus Llywodraeth Cymru. Bydd penodiad Ashok yn ein helpu i gyflawni’r nodau arbennig hyn ynghyd â chryfhau’r berthynas â’n partneriaid ledled Cymru er mwyn i bawb elwa o’r hyn a gyflawnwn.”

“Yn sicr iawn, mae heddiw yn ddydd o lawen chwedl yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.”

--DIWEDD--

Gwybodaeth Bellach:

Rhian Evans

post@llgc.org.uk

**This press release is also available in English**