Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'n bosib na fydd mynediad at ein gwefannau am gyfnodau heno (11 Rhagfyr 2024) oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Ar Ddydd Gŵyl Dewi mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gyffrous i gyhoeddi bod rhai o’i chasgliadau digidol bellach yn fyw ar blatfform ar-lein Google Arts & Culture, gan ddod â diwylliant Cymru i sylw’r byd.
Y Llyfrgell Genedlaethol yw’r sefydliad diwylliannol cenedlaethol cyntaf o Gymru i rannu cynnwys ar wefan Google Arts & Culture ac mae’n ymuno gyda thros 2000 o bartneriaid eraill o bob cwr o’r byd sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod celf a diwylliant ar gael i bawb ble bynnag y bônt.
Trwy rannu delweddau cydraniad uchel mae Google Arts & Culture yn galluogi cynulleidfaoedd i archwilio eitemau drostynt eu hunain gan edrych mewn manylder ar wrthrychau ac i ddysgu amdanynt trwy amrywiaeth o gyfryngau gweledol a chlyweledol. Mae’n bosib edrych ar lawysgrif cerddoriaeth ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ tra’n gwrando ar y recordiad cyntaf o’r anthem er enghraifft, yn ogystal ag edrych ar baentiadau o rai o’n cestyll eiconig ochr yn ochr â delweddau ‘street view’ Google ohonynt.
Ar hyn o bryd mae 190 o eitemau’r Llyfrgell ar gael mewn oriel ar-lein ar wefan ac app Google Arts & Culture, tra y bydd mwy o eitemau yn cael eu hychwanegu dros y misoedd nesaf. Yn eu plith mae ffotograffau gan ffotograffwyr cynnar eiconig fel Mary Dillwyn, gweithiau celf gan un o hoff artistiaid Cymru, Kyffin Williams, a thrysorau megis map o Gymru gan John Speed.
Mae’r Llyfrgell hefyd wedi curadu 10 o straeon digidol fel bod cynulleidfaoedd yn gallu mwynhau trysorau’r genedl yn eu cyd-destun hanesyddol. Mae’r holl ddeunydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Archwiliwch y casgliad ar-lein fan hyn: g.co/nationallibrarywales
Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol:
“Mae technoleg ddigidol yn chwarae rhan ganolog ym mywyd pob un ohonom ac rwy’n ymfalchïo yn y ffaith mai’r Llyfrgell yw’r sefydliad diwylliannol cenedlaethol cyntaf o Gymru i rannu cynnwys ar blatfform ar-lein Google Arts & Culture. Rydym am sicrhau bod modd i bawb gael mwynhau ein trysorau ac yn awyddus i alluogi ffyrdd newydd o roi mynediad i’n casgliadau. Mae'n hanfodol bwysig hefyd bod gwybodaeth am ddiwylliant Cymru ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg a gorau oll os yw hynny’n bosib ar blatfform poblogaidd fel hyn.”
Dywedodd Dafydd Tudur, Pennaeth Mynediad a Rhaglenni Cyhoeddus:
“Gobeithiwn y bydd llawer mwy o bobl yn cael eu hysbrydoli i ddysgu am ddiwylliant a threftadaeth ein cenedl, gan ddarganfod cyfoeth casgliadau ac adnoddau digidol y Llyfrgell Genedlaethol, ymuno â'n hystod o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar-lein, ac ymweld â'n hadeilad godidog yn Aberystwyth pan fydd ein gofodau yn ailagor i'r cyhoedd.”
Meddai Luixella Mazza, Pennaeth Gweithrediadau Byd-eang Google Arts & Culture:
“Rydym yn gyffrous i gyhoeddi ein partneriaeth gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru i nodi Dydd Gŵyl Dewi eleni. Mae’r bartneriaeth a’r prosiect hwn yn arbennig o gyffrous gan ein bod yn gallu rhannu casgliadau arbennig Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg am y tro cyntaf. Gobeithio y bydd ymwelwyr ym mhobman yn mwynhau’r profiad o ymgolli eu hunain yn llwyr yn nhreftadaeth Cymru ar Google Arts & Culture.”
--DIWEDD---
Gwybodaeth bellach:
Nia Wyn Dafydd
post@llgc.org.uk
**This press release is also available in English**
Mae Google Arts & Culture yn fenter ddielw sy’n gweithio gyda sefydliadau diwylliannol ac artistiaid ledled y byd. Eu nod yw dod â gweithiau celf a diwylliant ar-lein fel ei fod yn hygyrch i bawb ym mhobman. Mae ar gael am ddim i bawb ar y we, ar iOS ac Android. Dysgwch fwy ar eu gwefan.
10 stori o gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol ar Google Arts & Culture
1. Ffotograffwyr yng Nghymru, o’r Parch. Calvert Richard Jones i Geoff Charles
2. Kyffin Williams
3. Humphrey Llwyd, y gwneuthurwr mapiau
4. Shane Williams - portread yr artist David Griffiths
5. Salem - Sydney Curnow Vosper
6. Cwpan Nanteos
7. Cestyll Eiconig Cymru - yn cynnwys Castell Caernarfon, Castell Cydweli, Castell Conwy a Chastell Dolbadarn
8. Tirlun Cymru - tirluniau gwledig a diwydiannol
9. Llawysgrifau - yn cynnwys Hengwrt Chaucer
10. 5 trysor: Llyfr Gwyn Rhydderch, portread Geoff Charles o John Charles, ‘Vase of Flowers’ Gwen John, ‘The Gathering, Farmers on Glyder Fach’ Kyffin Williams a Primo Europe tabula (Map o Ynysoedd Prydain) gan Ptolemy.
Archwiliwch yr holl straeon ar-lein: g.co/nationallibrarywales