Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Ar ddechrau mis Tachwedd bydd newidiadau i natur rhai o’r gwasanaethau o fewn adeilad y Llyfrgell yn Aberystwyth. Mae iechyd a diogelwch ein hymwelwyr a’n staff yn flaenoriaeth i ni ac rydym yn parhau i fonitro’r risgiau sydd ynglwm â COVID-19 yn ofalus iawn. Fodd bynnag, mae’n hasesiad diweddaraf yn golygu ein bod mewn lle i addasu rhai o’n trefniadau.
Wrth ymweld â’r adeilad bydd y trefniadau canlynol yn dod i rym ar 1 Tachwedd 2021:
Gwasanaeth Ystafell Ddarllen
Fel rhan o gynlluniau cyffrous ehangach i ddatblygu ein gofodau cyhoeddus bydd y gwasanaethau darllen presennol i gyd yn cael eu hadleoli’n barhaol yn Ystafell Ddarllen y Gogledd. Mae gwaith adnewyddu sylweddol ar Ystafell Ddarllen y Gogledd bellach wedi ei gwblhau ac mae addasiadau wedi eu gwneud i sicrhau ei fod yn ofod cyfforddus i weithio ynddo a chael mynediad i holl gasgliadau’r Llyfrgell. Mae cynlluniau ar waith yn ystod y flwyddyn nesaf i ailddatblygu Ystafell Ddarllen y De er mwyn rhoi mynediad i’r Archif Ddarlledu Genedlaethol newydd ac fel ardal hyblyg ar gyfer gweithgareddau cyfranogi amrywiol.
Ni fydd angen archebu lle yn yr Ystafell Ddarllen wedi 1 Tachwedd, serch hynny rydym yn annog pawb i ragarchebu eitemau o’r casgliadau y byddant yn dymuno eu gweld cyn dod i’r Llyfrgell a hynny o leiaf 1 diwrnod ymlaen llaw os yn bosibl.
Meddai Dr Owain Rhys Roberts, Dirprwy Brif Weithredwr a Llyfrgellydd (Casgliadau ac Ymgysylltu):
“Mae’r deunaw mis diwethaf wedi bod yn gyfnod anodd ac heriol i bawb a thra ein bod ni’n parhau i gymryd gofal, rydym wedi’n cyffroi gan y cyfleon i ddatblygu ein gwasanaethau o fewn yr adeilad yn Aberystwyth.”
Mae manylion llawn am sut i ymweld â’r Llyfrgell i’w gweld ar ein gwefan.
--DIWEDD--
Gwybodaeth bellach:
Nia Wyn Dafydd
post(at)llgc.org.uk
**This press release is also available in English**