Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Y llyfr pwysicaf erioed i ymddangos yn y Gymraeg a Chymraes enwocaf y byd yw dau ganolbwynt arddangosfa sydd i’w gweld yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng dechrau mis Hydref 2021 a dechrau mis Ebrill 2022.
Mae arddangosfa Beibl i Bawb yn olrhain hanes cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg ac yna’r ymdrechion ar hyd y canrifoedd, gan bobl fel Griffith Jones (Llanddowror), Peter Williams a Thomas Charles o’r Bala, i gynhyrchu a lledaenu copïau ohono ac i ddysgu pobl i’w ddarllen.
Cyhoeddwyd y cyfieithiad cyflawn cyntaf o’r Beibl i’r Gymraeg yn 1588. Dyma’r cyfieithiad a alwn yn aml yn ‘Feibl William Morgan’, ac mae ei ddylanwad ar Gymru, ei hiaith a’i diwylliant wedi bod yn aruthrol. Aeth cyfieithwyr Y Beibl Cymraeg Newydd (1988) mor bell â galw Beibl 1588 ‘yn brif drysor crefyddol, diwylliannol a llenyddol ein cenedl’. Yn wir, oni bai am gyfieithiad 1588, mae’n ddigon posibl na fyddai’r Gymraeg yn iaith fyw heddiw.
Cynhaeaf llyfrau rhyfeddol Dr John Davies, 1620–1621
Yn 1620 ymddangosodd fersiwn diwygiedig o ‘Feibl William Morgan’ wedi ei olygu gan Dr John Davies, Mallwyd, un o ysgolheigion pennaf y Gymraeg. Y fersiwn diwygiedig hwnnw oedd testun safonol y Beibl yn y Gymraeg hyd at ddiwedd yr ugeinfed ganrif; ac un o fwriadau’r arddangosfa bresennol yw nodi 400 mlwyddiant cyhoeddi Beibl 1620, testun a fu mor ddylanwadol yn hanes Cymru.
Treuliodd John Davies fisoedd lawer yn Llundain yn llywio Beibl 1620 drwy’r wasg. Rhan arall o ffrwyth ei arhosiad yn Llundain oedd cyhoeddi yn 1621 dri llyfr arall a fu’n fawr eu dylanwad:
Mae’r cynhaeaf rhyfeddol hwn o lyfrau oll yn cael sylw yn yr arddangosfa hon.
Cyfle unigryw i weld Beiblau Mary Jones
Yn 1800, fe gerddodd merch dlawd, 15 mlwydd oed, yn droednoeth o’i bwthyn yn Llanfihangel-y-Pennant wrth droed Cadair Idris i’r Bala, taith o dros 25 milltir. Mary Jones oedd ei henw. Dysgodd ddarllen pan oedd tua 10 mlwydd oed, ac o hynny ymlaen byddai’n cerdded yn rheolaidd i ffermdy ryw ddwy filltir o’i chartref er mwyn darllen y Beibl.
Hiraethai am gael ei Beibl ei hun, ond roeddynt yn ddrud a hithau’n dlawd iawn. Ond erbyn 1800 roedd wedi cynilo digon i allu prynu copi; a diben ei thaith i’r Bala oedd prynu ei chopi ei hun o’r Beibl gan Thomas Charles, un o arweinwyr Cristnogol amlwg y dydd.
Roedd Thomas Charles yn daer am weld cyflenwad cyson o Feiblau fforddadwy ar gyfer gwerin bobl Cymru. Mewn cyfarfod yn Llundain, apeliodd am greu cymdeithas a fyddai’n cyhoeddi Beiblau Cymraeg rhad, a ffrwyth ei apêl oedd sefydlu yn 1804 Gymdeithas y Beibl, a’r nod o ddarparu Beiblau nid yn unig i Gymru ond hefyd i bob rhan o’r byd.
Mae’n debyg fod Thomas Charles yn ystod ei apêl wedi adrodd hanes Mary Jones a’i hymdrechion i gael Beibl, a bod ei stori hi wedi creu argraff ddofn ar ei wrandawyr.
Erbyn hyn, mae stori Mary Jones wedi mynd yn boblogaidd ar draws y byd. Mae llawer dros y blynyddoedd wedi eu cyffwrdd a’u hysbrydoli gan ei hymdrech fawr yng nghanol ei thlodi i gael Beibl. Bellach, mae ei hanes ar gael mewn tua 40 o ieithoedd, a rhwng hynny a phresenoldeb amlwg ei stori ar-lein, gellir dweud yn hyderus mai Mary Jones yw Cymraes enwocaf y byd.
Un peth nodedig am yr arddangosfa hon yw bod ynddi bedair eitem sy’n agos gysylltiedig â Mary Jones, na fuont gyda’i gilydd erioed o’r blaen:
‘Beibl i bawb o bobl y byd’
Nod Cymdeithas y Beibl oedd, ac yw, darparu ‘Beibl i bawb o bobl y byd’, ac yn ogystal ag olrhain hanes y Beibl Cymraeg, mae gwedd ryngwladol amlwg i’r arddangosfa hon. Dros y blynyddoedd bu nifer o bobl Cymru yn weithgar yn cyfieithu’r Beibl i ieithoedd ar draws y byd. Mae sôn am rai enghreifftiau o hyn yn yr arddangosfa, ac yn eu plith:
Ac fel y bu’r Beibl yn ganolog i barhad y Gymraeg, bu’r gwaith cyfieithu hwn yn allweddol i barhad nifer o’r ieithoedd hynny, trwy roi iddynt ffurf ysgrifenedig safonol am y tro cyntaf.
Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol:
“Mae’r Llyfrgell yn falch iawn o fod wedi medru trefnu’r arddangosfa ardderchog hon sy’n arddangos a dathlu rhan mor bwysig o’n hanes fel Cymry a sut y bu i ni gyfrannu at ledaenu’r Beibl ar draws y byd, a’r buddion cymdeithasol ac addysgol a ddaeth o ganlyniad i hynny.”
Meddai’r Athro E. Wyn James, Athro Emeritws yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd a churadur yr arddangosfa:
“Dyma arddangosfa sy’n rhoi cyflwyniad i hanes y llyfr pwysicaf erioed i’w gyhoeddi yn y Gymraeg ac sydd hefyd yn rhoi golwg ar gyfraniad pobl Cymru i ledaenu’r Beibl drwy’r byd. Ar ben hynny, mae’n arddangosfa sy’n cynnig cyfle unigryw i weld gyda’i gilydd, am y tro cyntaf erioed, y pedwar copi o’r Beibl sy’n agos gysylltiedig â Mary Jones, Cymraes enwocaf y byd.”
Mae’r arddangosfa i’w gweld yn Oriel Hengwrt yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 1 Hydref 2021 a 2 Ebrill 2022. Mae mynediad yn rhad ac am ddim drwy archebu tocyn.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ddiolchgar i’r Athro E. Wyn James am guradu’r arddangosfa a hefyd i Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ddinbych, Ymddiriedolwyr Cymdeithas y Beibl a Chasgliadau Arbennig Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt am eu haelioni a’u cefnogaeth i’r arddangosfa.
--DIWEDD--
Gwybodaeth bellach:
Nia Wyn Dafydd
post(at)llgc.org.uk
**This press release is also available in English**