Symud i'r prif gynnwys
Tryweryn 60

Tryweryn 60

Yn nodi chwe deg mlynedd ers boddi Tryweryn i greu cronfa ddŵr i Lerpwl, mae TRYWERYN 60 yn dwyn ynghyd ddelweddau pwerus ac ymatebion artistig i’r drychineb hon yn hanes y genedl.

13 Medi 2025 - 14 Mawrth 2026

Uwch Gyntedd

Aduniad: Beiblau Mawr Harri’r VIII a Thomas Cromwell

Aduniad: Beiblau Mawr Harri’r VIII a Thomas Cromwell

Am y tro cyntaf ers bron i 500 mlynedd, mae Beiblau personol Harri’r VIII a’i brif weinidog, Thomas Cromwell, wedi dod at ei gilydd.

21 Mehefin 2025 - 22 Tachwedd 2025

Hengwrt


Trysorau

Trysorau

Arddangosfa barhaol o drysorau gwerthfawr, prin, hen, hardd neu eiconig o gasgliadau’r Llyfrgell.

Parhaol

Hengwrt

Ar yr Awyr: Canrif o Ddarlledu yng Nghymru

Ar yr Awyr: Canrif o Ddarlledu yng Nghymru

Ymgollwch eich hun yn stori darlledu yng Nghymru dros y ganrif ddiwethaf. Gwyliwch a gwrandewch ar uchafbwyntiau o Archif Ddarlledu Cymru, yn amrywio o'r sylw a roddwyd yn y wasg i ddigwyddiadau o bwys a chlipiau yn dangos bywyd a diwylliant Cymreig.

Parhaol

Archif Ddarlledu Cymru


Canllawiau ynglŷn â thynnu lluniau (ffotograffau) yn Arddangosfeydd LLGC

  • Caniateir tynnu lluniau yn yr orielau at ddefnydd personol, anfasnachol yn unig, Fodd bynnag, y mae’r Llyfrgell yn mynnu’r hawl, ar adegau, i wahardd hynny am resymau yn ymwneud â hawliau, diogelwch a chwaeth.
  • Bydd arwyddion clir, bob amser, i gyd-fynd â phob arddangosfa i nodi a oes hawl i dynnu lluniau ai peidio.
  • Caniateir defnyddio camerâu a ffônau symudol.
  • Ni chaniateir defnyddio fflach.
  • Ni chaniateir defnyddio trybedd.
  • Cyfrifoldeb yr ymwelydd yw sicrhau nad yw’n torri unrhyw ddeddfau hawlfraint.

Bwyd a Diod

Ni chaniateir bwyd a diod yn ardaloedd arddangos y Llyfrgell.