Symud i'r prif gynnwys

09.08.2021

Dros yr haf bydd Dorry Spikes a Rupert Allan yn lansio prosiect darlunio a cherdded sef Mapio Lleisiau’r Tir. Mae Mapio Lleisiau’r Tir yn gyfres o weithgareddau arlein am ddim sydd yn bwriadu ymateb i, a rhannu archif sain Hanes y Goedwig, trwy ddarparu pecyn cymorth darlunio a cherdded digidol felly gall pobol ailfyw, a chael eu  hysbrydoli gan hanesion llafar cymunedau mynyddoedd Ceredigion.

Bydd darluniau yn cael eu geo-leoli ar leoliad tra’n gwrando ar ddetholiad o recordiadau lleol ac ail ymweld â’r hen lwybrau yn ardal Tregaron a Phontrhydfendigaid (gan ddefnyddio ffôn symudol). Dyma gyfle i ymuno gyda grŵp darlunio cymunedol ac i fod yn rhan o brosiect ‘Datgloi Ein Treftadaeth Sain’, a arweinir gan y Llyfrgell Brydeinig ac sydd wedi’i drefnu gan Llyfrgell Genedlaethol Gymru/Casgliad y Werin Cymru.

Dywedodd Alison Smith, Rheolwr Hwb Prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain:

"Mae’r Prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain yn falch iawn o weithio gyda Rupert Allan a Dorry Spikes. Bydd cydweithio yn sicrhau na fyddwn yn colli’r lleisiau a’r straeon sy’n rhan o’n hanes. Bydd cymunedau’n gallu gwrando a gwerthfawrogi o'r newydd y recordiadau hyn a chlywed am sut roedd pobl yn arfer byw yn eu hardal gan ddatgelu ambell i draddodiad cudd."

Dywedodd Rupert Allen:

"Roeddwn i’n gwybod y byddai hi yn anhygoel i gysylltu’r cofnodion arbennig yma gyda thechnolegau newydd, ond mae’r storïau hyn yn fwy hudol nag y gallwn i fod wedi’i ddychmygu. O fod wedi byw a gweithio yn yr ucheldiroedd a’r corstiroedd, roeddwn yn gyfarwydd â rhai chwedlau lleol, ond mae’r cyfweliadau hyn - a’r ffordd arbennig y maent yn cael eu perfformio - yn cyseinio gyda fy ymdeimlad ymarferol o berthyn yn y mynyddoedd hyn rwy' bellach yn eu galw'n gartref i mi."

Gweithgareddau fydd ar gael:

  • Defnyddio OpenStreetMap (OSMand) ar ffôn symudol i ddilyn llwybrau cerdded gpx.
  • Sut i lawrlwytho a gwrando ar recordiadau safle penodol (yn ystod cyfnod y prosiect)
  • Gweithgareddau darlunio ar leoliad (dewisol)
  • Sut i geo-leoli delweddau
  • Sut i rannu lluniau a deunydd ar Casgliad y Werin Cymru
  • Sut i chwilio am ffeiliau sain eraill yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru/ y Llyfrgell Brydeinig
  • Sut i greu map syml am ddim efo nodiadau a lluniau ar gyfer eich wefan neu blog personol
  • Cyflwyniad ar sut i ddefnyddio Wikimedia a OSM ar gyfer brosiectau tebyg

*Nodwch os gwelwch yn dda: Bydd rhai o’r gweithgareddau arlein trwy’r gyfrwng y Saesneg, mae’r rhan fwyaf o hanesion llafar y prosiect hyn trwy gyfrwng y Gymraeg.


Os ydych chi’n hoff o ddysgu am hanes lleol ac ymchwilio’r tirlun, mae’r gweithgareddau am ddim ac yn agored i bawb dros 18 oed sydd â ffôn clyfar. I ymuno/darganfod mwy ewch i Eventbrite. Nodwch os gwelwch yn dda mai nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael.

Amserlen y Prosiect

Gweithdy Digidol 1 - 05/08 18:00-19:00
Cyflwyniad i OSMAnd, llwybrau cerdded GPX, sut i lawrlwytho a gwrando ar recordiadau, paratoi ar gyfer darlunio ar leoliad
Gweithdy Digidol 2 - 26/08 18:00-19:00
Cyfarfod i rhannu darluniau a meddyliau ynghlyn a'r archif sain a'r llwybrau cerdded
Gweithdy Digidol 3 - 02/09 18:00-19:00
Cyflwyniad i Casgliad y Werin Cymru gan Gruffydd Jones
Gweithdy Digidol 4 - 09/09 18:00-19:00
OpenStreetMap a defnyddio map (U-Map) syml cerdded a darluniau am ddim ar gyfer wefan neu blog - Rupert Allan. Cyflwyniad i Wikimedia gan Jason Evans, Wicipediwr Cenedlaethol
Gweithgareddau darlunio ar leoliad dewisol:
Sadwrn 7 Awst 10:00-16:00 - Y Crofftau
Sadwrn 21 Awst 10:00-16:00 - Y Postmon Olaf ar Gefn Ceffyl
Dyddiad i’w gadarnhau - Nant y Doethie

--DIWEDD--

Gwybodaeth Bellach:
Alison Smith : alison.smith@llgc.org.uk neu uosh@llyfrgell.cymru

**This press release is also available in English**